Mae pôl piniwn gan Scotland on Sunday yn nodi cefnogaeth 50-50% i annibyniaeth, gyda llai nag 20% yn ystyried annibyniaeth yn un o faterion pwysica’r wlad – ei lefel isaf ers dechrau cynnal y polau.
Cafodd y rhai wnaeth ymateb eu holi am eu tri mater pwysicaf, gyda’u hanner yn nodi’r economi.
Iechyd oedd yr ail ateb mwyaf cyffredin (45%), ac wedyn cyflogaeth a lles (35% yr un), addysg (31%), Brexit (25%).
Annibyniaeth oedd nesaf (19%) – safle isa’r mater ers i’r Scotland on Sunday ddechrau cynnal y polau.
Cafodd 1,007 o bobol dros 16 oed eu holi, ac mae’r pôl yn awgrymu mai mwyafrif i’r SNP (27%) yw’r ateb er mwyn sicrhau ail refferendwm annibyniaeth yn hytrach na throi at Alba, plaid newydd Alex Salmond.
Mae 9% o’r farn mai llywodraeth leiafrifol yr SNP fyddai’r ffordd orau o sicrhau refferendwm arall, 7% yn dweud clymbaid Alba/SNP a 6% am gynnwys y Blaid Werdd mewn clymblaid er mwyn ennill rhyddid.
Mae’r pôl yn darogan y bydd yr SNP yn ennill 64 sedd ac yn colli allan ar fwyafrif, gyda deg sedd i’r Blaid Werdd ond Alba heb un sedd, gan ennill 3% o’r bleidlais ranbarthol.
Mae cefnogaeth i annibyniaeth ar 50% wrth gynnwys atebion “ddim yn gwybod” – yr un ganran â’r rhai sydd am aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.
Mae 53% o’r farn y dylid cynnal refferendwm o’r newydd o fewn pum mlynedd, gydag 19% o’r rheiny am ei gynnal o fewn blwyddyn.
Effaith yr ymchwiliad i Alex Salmond
Yn ôl yr Athro John Curtice, dydy’r helynt yn ymwneud ag ymchwiliad i’r ffordd y gwnaeth Llywodraeth yr Alban ymdrin â’r ymchwiliad i honiadau yn erbyn Alex Salmond ddim wedi cael effaith ar eu gobeithion yn yr etholiadau etholaethol.
Fe fu cwymp bach o 1% yn y gefnogaeth i annibyniaeth.
Ond mae’n dweud nad oes “dim byd mwy na thystiolaeth gymysg” fod yr helynt yn golygu bod Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn llai poblogaidd erbyn hyn.
Ac mae’n dweud nad yw’r sefyllfa wedi helpu gobeithion Alex Salmond, a allai ddychwelyd i Holyrood fel unig aelod ei blaid – a hynny am ei fod yn amhoblogaidd ac nad yw pobol yn teimlo mai fe yw’r ateb i’r cwestiwn o sicrhau refferendwm annibyniaeth.