Mae Llafur yr Alban yn galw am ymchwiliad i ginio cyfrinachol gweinidog yr SNP â banciwr a biliwynydd i benderfynu a wnaeth e dorri’r cod gweinidogol.
Fe ddaeth i’r amlwg fod Fergus Ewing, Ysgrifennydd Economi Wledig yr Alban, wedi cael cinio â Lex Greensill a Sanjeev Gupta a dau o’u cydweithwyr eraill mewn bwyty crand yn Glasgow yn 2017.
Mae cais rhyddid gwybodaeth wedi dangos nad oedd cofnod swyddogol o’r cinio, nad oedd cydweithwyr Fergus Ewing wedi mynd gyda fe ac mae Llywodraeth yr Alban yn dweud nad oes yna e-byst, negeseuon testun na chofnod o alwadau ffôn yn crybwyll y cyfarfod.
Mae cytundebau ariannol rhwng Llywodraeth yr Alban a’r ddau unigolyn wedi arwain at ddyledion sylweddol i’r llywodraeth ar ôl i gwmni Greensill Capital fynd i’r wal.
Dywed Llywodraeth yr Alban nad ydyn nhw’n gwybod pwy dalodd am y cinio, ac mae Llafur yr Alban yn dweud bod angen “eglurhad yn ddifrifol”.
Serch hynny, mae’r SNP yn dweud bod yr honiadau fod Aelod Seneddol Albanaidd Inverness a Nairn wedi torri’r cod gweinidogol “heb sail”.
Cod gweinidogol
Yn ôl y Cod Gweinidogol, dylai ysgrifennydd preifat neu swyddog fod yn bresennol ar gyfer yr holl drafodaethau’n ymwneud â materion y llywodraeth, ac y dylid cofnodi ffeithiau sylfaenol, gan gynnwys y rheswm am y cyfarfod, pwy oedd yn bresennol a’r buddiannau oedd wedi cael eu cynrychioli.
Mae’r Cod yn dweud fod rhaid rhoi gwybod i swyddfeydd preifat cyn gynted â phosib os caiff mater swyddogol ei drafod oedd heb gael ei gofnodi ymlaen llaw, a bod rhaid cofnodi’n fras beth gafodd ei drafod.
Mae Sanjeev Gupta wedi derbyn miliynau o bunnoedd o gymorth ariannol gan y wladwriaeth i brynu ffatrïoedd yn Sir Lanark ac ardaloedd eraill.
Ond mae cwmni GFG Alliance mewn trafferthion ariannol ar ôl i Greensill Captial, ei gefnogwr mwyaf, fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Yn 2015, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban roi benthyg £7m i GFG Alliance er mwyn iddyn nhw brynu gweithfeydd Dalzell a Clydebridge gan Tata ac yn ddiweddarach, fe brynodd safle Lochaber gan Rio Tinto yn 2016 fel rhan o gytundeb gwerth £330m.
Fel rhan o’r cytundeb dan arweiniad Fergus Ewing, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban warantu y bydden nhw’n prynu pwer o ffatri Lochaber am gyfnod o 25 mlynedd.
Ymateb Llafur yr Alban
Mae Monica Lennon, llefarydd economi Llafur yr Alban, yn dweud bod angen “difrifol” i Fergus Ewing gynnig eglurhad ac i gynnal ymchwiliad.
“Gallai trethdalwyr yr Alban orfod talu cannoedd o filiynau o bunnoedd dros y 25 mlynedd nesaf o ganlyniad i gytundeb sy’n ymwneud â’r dynion busnes hyn – ac mae’n gynyddol aneglur pa mor ddiogel yw’r buddsoddiad hwnnw na a oedd e byth yn golygu gwerth da am arian,” meddai.
“Sut ar wyneb y Ddaear gafodd gweinidog Cabinet ginio cysurus mewn bwyty crand yn yr ochr orllewinol heb fod unrhyw swyddogion yn bresennol pan oedd materion llywodraeth yn amlwg ar yr agenda?
“Pam nad oes modd dod o hyd i unrhyw gofnod o ohebiaeth yn ymwneud â’r cinio?
“Ydyn ni i fod i gredu ei fod e wedi cael ei drefnu mewn modd telepathig?
“Mae tu hwnt i grediniaeth nad oes cofnodion swyddogol o’r cyfarfod o gwbl ac eithrio’r nodiadau a gafodd eu llunio gan ddyn busnes oedd yn bresennol.”
Ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ymchwiliad hefyd, gan ddweud bod cwymp Greensill “wedi amlygu rhwydwaith amheus o gytundebau ystafell gefn ar draws llyworaethau’r Alban a’r Deyrnas Unedig”.
“Dw i ddim yn synnu o gwbl nad oes cofnodion o’r cyfarfod hwn,” meddai’r arweinydd Willie Rennie.
“Erbyn hyn, mae’n glir mai dyma ddull cyffredin yr SNP o weithredu.”
Ymateb y Blaid Werdd
Mae’r mater yn “syfrdanol”, yn ôl y Blaid Werdd.
“Mae’n eithaf syfrdanol fod y gweinidog Cabinet blaenllaw hwn fel pe bai’n credu nad oes rhaid iddo fe sicrhau bod nodiadau’n cael eu llunio mewn cyfarfodydd pwysig,” meddai Mark Ruskell.
Ymateb yr SNP
Mae’r SNP yn mynnu bod y cyfarfod wedi cael ei gofnodi’n gywir.
“Mae ymdrechion gwrthbleidiau i achosi drygioni ynghylch y mater hwn yn gwbl ddi-sail,” meddai llefarydd ar ran yr SNP.
“Dydy gweision sifil ddim yn mynd i bob cinio neu ymrwymiad mae gweinidog yn mynd iddyn nhw – byddai hynny’n wastraff gwarthus o arian cyhoeddus – a does dim gofyn iddyn nhw wneud yn ôl y Cod Gweinidogol.”