Mae ITV Cymru wedi gohirio dadl deledu ar drothwy etholiadau’r Senedd.

Roedd disgwyl i’r ddadl Wales Decides gael ei darlledu heno (nos Sul, Ebrill 11) ond mae hi wedi cael ei symud i nos Sul nesaf (Ebrill 18) am 7 o’r gloch.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth Dug Caeredin.

Dywed ITV Cymru fod eu dadl ymhlith arweinwyr y pleidiau llai wedi cael ei symud i nos Lun nesaf (Ebrill 19).

Mae’r prif bleidiau wedi rhoi’r gorau i ymgyrchu dros y penwythnos fel arwydd o barch.

Ymhlith y rhai sydd wedi ymateb i’r cyhoeddiad mae Siôn Jobbins, cadeirydd mudiad annibyniaeth Yes Cymru, sy’n dweud bod y penderfyniad yn “warthus”.

Rhaglenni etholiadol

Bydd cyfres o raglenni etholiadol yn cael eu darlledu gan ITV a BBC cyn etholiadau’r Senedd ar Fai 6.

Bydd dadl arweinwyr y BBC yn cael ei chynnal ar Ebrill 29.

Bydd sianeli teledu a gorsafoedd radio BBC Cymru yn darlledu cyfres o raglenni dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf, gan gynnwys Hawl i Holi, The Leaders Lounge a’r podlediadau Walescast a Gwleidydda.

Bydd Politics Wales hefyd yn rhoi sylw helaeth i’r etholiadau a’r arweinwyr.

Bydd rhaglenni canyniadau ar BBC 1, S4C, Radio Cymru, Radio Wales a gwefannau newyddion y BBC.