Mae Heddlu’r De wedi apelio o’r newydd am wybodaeth am ddyn 42 oed maen nhw’n dal yn awyddus i’w holi mewn perthynas â’u hymchwiliad i lofruddiaeth Aamir Siddiqi yng Nghaerydd union 11 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd y llanc 17 oed ei lofruddio yng nghartre’r teulu yn y Rhath ar Ebrill 11, 2010 wrth aros am ei athro Quran.
Dydy’r heddlu ddim wedi gallu siarad â Mohammed Ali Ege, dyn 42 oed o ardal Glanyrafon wnaeth ffoi i India cyn iddyn nhw allu ei holi.
Cafodd ei arestio yn India yn 2013 ond yn 2017, wrth aros i gael ei estraddodi, fe wnaeth e ffoi o’r ddalfa.
Mae’r heddlu bellach wedi cyhoeddi lluniau newydd o’r dyn sydd dan amheuaeth, yn y gobaith y gallai arwain at wybodaeth newydd amdano fe.
Cafwyd dau ddyn arall yn euog o lofruddio, ac maen nhw wedi’u carcharu am oes.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.