Mae Huw Edwards yn dweud nad oedd gosod y Ddraig Goch ar ei dudalen Twitter “yn fath o strategaeth fwriadol i wneud pwynt”.

Fe fu’n siarad â WalesOnline am yr helynt pan ofynnodd y BBC iddo dynnu baner Cymru oddi ar ei gyfrif, a hynny yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer y gwleidyddion Prydeinig sydd wedi bod yn arddangos baner yr Undeb yn ystod ymddangosiadau ar y teledu.

Roedd un o’i gydweithwyr, Naga Munchetty, wedi bod dan y lach ar ôl hoffi negeseuon Twitter yn cyfeirio at ddefnydd gwleidyddion o faner yr Undeb a bu’n rhaid iddi ymddiheuro’n ddiweddarach.

Ond yn ôl y Cymro Cymraeg o Langennech sy’n byw a gweithio yn Llundain ers rhai degawdau, “ychydig o hwyl ar benwythnos rygbi” oedd ei ymateb yntau, wrth i dîm Cymru ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Ro’n i’n eitha’ gostyngedig, a bod yn onest,” meddai am yr ymateb wrth i bobol arddangos ei wyneb ar eu cyfrifon yn sgil yr helynt.

“Dyw e ddim yn wir taw rhyw fath o strategaeth fwriadol i wneud pwynt oedd hyn.

“Dw i fwy na thebyg yn mynd i sarhau rhai cydweithwyr yn y BBC drwy ddweud hyn, ond do’n i ddim yn meddwl am yr helynt newyddion brecwast – roedd e jyst yn benwythnos rygbi.”

Cafodd neges Huw Edwards ei hoffi a’i haildrydar ddegau o filoedd o weithiau.

“Hwn fwy na thebyg yw fy nhrydariad mwyaf llwyddiannus erioed, tipyn o hwyl oedd e mewn gwirionedd.

“Ro’n i’n meddwl y byddai fy ffrindiau Cymreig yn dwlu pe bawn i’n dweud mai hwn fyddai fy nghefndir ar gyfer newyddion deg o’r gloch.”

‘Baneri ym mhob man’

Mae Huw Edwards yn gwrthod yr awgrym ei fod e wedi gwneud ’datganiad pryfoclyd’.

“Mae baneri ym mhob man,” meddai.

“Mae gan Mark Drakeford ei faner i fyny.

“Mae gan Boris ddwy faner i fyny.

“Dw i’n credu taw’r sefyllfa o ran y BBC oedd eu bod nhw wedi gwneud ffwdan am y peth brecwast, byddai’n ymddangos braidd yn… sut alla i ei ddweud e… fyddai e ddim yn helpu.

“Dyna’r broblem a dw i heb feddwl am hynny, ac efallai mai fy mai i yw hynny.

“Ro’n i jyst yn ei weld e fel tipyn o hwyl ar benwythnos rygbi.

“Roedd e wedi cael ei dderbyn yn hwyliog ac mae e wedi cael ymateb gwych.

“Mae pobol wedi’i gymryd e fel roedd e fod – peth ysgafn.”

‘Bydd hon yn fwy o stori’

Wrth drafod yr helynt ymhlith penaethiaid y BBC, mae’n dweud iddo eu rhybuddio y byddai’n “fwy o stori” pe baen nhw’n ei orfodi i ddileu’r neges.

“Roedd y BBC ychydig yn sensitif am y peth ac ry’n ni’n gwybod hynny,” meddai.

“Dw i ddim am ypsetio fy nghydweithwyr yn y BBC chwaith, ond pan ddywedon nhw y gallai helpu i dawelu’r peth pe bawn i’n dileu’r trydariad, dywedais i, ‘Wel, fe wna i ond rhaid i chi sylweddoli, os ydw i’n dileu’r trydariad, mae hyn yn newyddiaduraeth sylfaenol, bydd hon yn fwy o stori.

“Yn anffodus, do’n i ddim yn gallu argyhoeddi fy nghydweithwyr fod hynny’n wir.

“Felly dyna sut ddigwyddodd e.

“Doedd e ddim yn fwriadol, doedd e ddim yn faleisus.

“Wrth gwrs, pan welais i bobol yn ei gefnogi fe, ges i fy nghyffwrdd yn fawr iawn mewn gwirionedd.

“Mae’r gynulleidfa Gymreig wedi bod yn eithriadol o gefnogol.”

Y Gymraeg, Cymreictod a dyfodol Cymru

Yng ngweddill y cyfweliad, mae Huw Edwards yn trafod yr iaith Gymraeg, ei Gymreictod e a magwraeth ei blant heb fawr o Gymraeg yn Llundain.

Mae’n egluro mai Saesneg yw prif iaith y cartref am nad yw ei wraig yn siarad Cymraeg ac mae’n dweud mai prin yw’r amser mae e wedi’i dreulio ar yr aelwyd ar hyd y blynyddoedd oherwydd ei ymrwymiadau gwaith.

Mae’n egluro bod gan ei blant hynaf fwy o afael ar y Gymraeg na’i blant iau am ei fod e “wedi gallu canolbwyntio llawer o amser” arnyn nhw.

Mae’n egluro bod nifer o’i blant yn arbenigo mewn ieithoedd ond nad ydyn nhw o reidrwydd yn “sgwrsio’n rhugl” yn y Gymraeg.

“Maen nhw’n siarad yn aml â Mam sy’n ôl yn Llanelli ac maen nhw’n ymwybodol iawn o dreftadaeth fy nhad [yr Athro Hywel Teifi Edwards] a’r ffaith ei fod e’n ffigwr mawr yn niwylliant y Gymru Gymraeg ac maen nhw’n falch iawn o hynny.

“Mae ei holl lyfrau o gwmpas y lle.”

Ond mae’n dweud bod yr iaith yn “fater sensitif iawn” er nad dyna’r “unig ran” o hunaniaeth.

“Mae unrhyw un sy’n dweud ei fod e’n Gymro yn Gymro,” meddai.

“I fi, does dim ots a ydych chi’n siaradwr Cymraeg neu ddim yn siaradwr Cymraeg, beth sy’n bwysig i fi yw a ydych chi’n Gymro o ran ysbryd a hunaniaeth.

“I fi, rhan fawr o Gymreictod yw bod yn gynhwysol ac nid cau allan.

“Fel Cymro Llundain, dyw’r rhan fwyaf o ‘nghyd-Gymry Llundain ddim yn siarad Cymraeg a dw i wedi treulio ugain mlynedd a mwy yn pregethu hyn, yn dweud taw Cymry ydyn nhw i gyd.

“Bydda i’n cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg i ddod o hyd i ran arall o Gymreictod, a byddwn i wrth fy modd pe baech chi’n gwneud hynny.

“Ond allwch chi ddim dweud wrth fy mhlant i, er enghraifft, a hwythau’n cefnogi Cymru ar bob llwyfan chwaraeon posib ac sydd mor Gymreig ag y gewch chi, nad Cymry ydyn nhw oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu sgwrsio yn Gymraeg, oherwydd mae hynny’n anghywir.”

‘Anymarferol’

Mae’n dweud bod ei sefyllfa deuluol yn golygu ei bod yn “anymarferol” disgwyl i’w blant allu siarad Cymraeg yn rhugl.

“Pa mor ymarferol fyddai hynny?

“Ddim yn ymarferol iawn oherwydd prin dw i gartre’ a dyw ‘ngwraig i ddim yn siarad Cymraeg.

“Byddai angen i chi fod yn gonsuriwr.

“Dw i ddim yn gwneud esgusodion, dw i jyst yn egluro pam fod hynny’n digwydd a pham fod llawer o gartrefi Cymry Llundain yr un fath.

“Dyw e ddim yn ymwneud â phobol yn dymuno bod yn llai Cymreig neu’n troi eu cefnau ar stwff Cymraeg.

“Mae e o ganlyniad i realiti ymarferol.”