Mae pump o wrthryfelwyr wedi cael eu lladd gan awdurdodau India yn Kashmir, rhanbarth sy’n aml yn destun gwrthdaro rhwng India a Phacistan.

Yn eu plith roedd llanc yn ei arddegau.

Mae Kashmir dan reolaeth India ar hyn o bryd, ac fe ddechreuodd y gwrthdaro ar ôl i filwyr gau dau bentref yn ne’r rhanbarth, Shopian a Bijbehara, ar sail cudd-wybodaeth fod gwrthryfelwyr gwrth-India yn cuddio yno.

Cafodd tri o wrthryfelwyr eu lladd a dau filwr eu hanafu yn Shopian, a dau wrthryfelwr arall yn Bijbehara.

Yn ôl yr awdurdodau, fe geision nhw ddod â’r gwrthdaro i ben yn heddychlon ond roedd y gwrthryfelwyr wedi gwrthod ildio.

Mae o leiaf 15 o wrthryfelwyr, plismon a milwr wedi cael eu lladd eleni.

Daw hyn ar ôl i India a Phacistan gytuno i ailgyflwyno cadoediad 2003 yn Kashmir.

Serch hynny, mae awdurdodau India wedi parhau i fod yn llawdrwm ar hyd y ffin, gyda’r ddwy wlad yn parhau i hawlio’r rhanbarth yn ei gyfanrwydd.

Mae Mwslimiaid Kashmir o blaid rhoi Kashmir i Bacistan neu fod yn wlad annibynnol.