Dydy twyll a bygythiadau yn etholiadau Twrci dros yr wythnos ddiwethaf “ddim yn rhywbeth newydd”, yn ôl dynes sy’n byw yn y wlad ar hyn o bryd ac sydd wedi bod yn siarad â golwg360 am y sefyllfa.

Mae sawl swyddog o’r Blaid Chwith Werdd (YSP) yn dweud eu bod nhw’n disgwyl mynd i’r carchar pe bai’r Arlywydd Recep Tayyip Erdoğan yn ennill tymor arall wrth y llyw, a hynny mewn modd sydd heb fod yn ddemocrataidd.

“Dangoswyd tystiolaeth i ni fod twyll etholiad gan awdurdodau Twrci wedi digwydd pan gafodd canlyniadau’r etholiad gafodd eu cymeradwyo gan bwyllgorau etholiad lleol eu teipio i’r gronfa ddata genedlaethol,” meddai datganiad ar y cyd gan ddirprwyaeth etholiad o’r Deyrnas Unedig yn Nhwrci.

“Rhoddodd yr ymgyrchwyr lleol dystiolaeth uniongyrchol i ni o ddau achos – dogfennau pwyllgor etholiad lleol cymeradwy a’r canlyniad terfynol cyhoeddedig.”

Canlyniadau amwys

Mae dogfen y pwyllgor etholiad lleol yn ardal 1234, Bismil, Diyarbakır yn dangos 233 o bleidleisiau i’r Blaid Chwith Werdd (YSP), tra bod y canlyniad terfynol gafodd ei adrodd yn dangos nad oedd yr un bleidlais ar eu cyfer nhw, a bod 233 ar gyfer Plaid y Mudiad Cenedlaethol (MHP) ar y dde eithafol.

Yn ardal 1912 yn Hakkari, mae dogfen y pwyllgor etholiad lleol yn dangos 228 ar gyfer YSP a dim ar gyfer MHP, tra bod y canlyniad gafodd ei gyhoeddi yn swyddogol yn dangos 228 ar gyfer yr MHP a dim ar gyfer yr YSP.

Mae’r YSP yn ceisio herio’r achosion hyn gyda’r Goruchaf Fwrdd Etholiadol, a dywedodd cynrychiolydd o’r blaid yn Amed (Diyarbakır) wrth grŵp y Deyrnas Unedig eu bod yn ymwybodol o gannoedd o achosion tebyg, a bod y nifer yn newid yn barhaus oherwydd cymhlethdodau gweinyddol ar bob un adeg yn y broses.

Y dyddiad cau swyddogol ar gyfer cwynion oedd dydd Mawrth (Mai 16) am 3 o’r gloch, ond dydy’r wladwriaeth ddim wedi ymateb i’r rhan fwyaf o’r achosion gafodd eu crybwyll gan yr YSP.

Mae hyn, ynghyd â thactegau aelodau Plaid Cyfiawnder a Datblygiad (AKP) o bwyllgorau etholiad lleol yn gofyn am ailgyfrif niferus, yn golygu bod y canlyniadau hyn wedi’u hanfon yn hwyr i’r system etholiadol genedlaethol fel mai prin fu’r amser i herio unrhyw dwyll.

Yr un hen stori

Yn ôl Hazel Eris, sydd yn byw yn Diyarbakir yn ne-ddwyrain Twrci ar hyn o bryd, mae hon yn hen stori.

Yn ôl eraill, mae’r sefyllfa wedi bod llawer gwaeth yn y gorffennol.

Nid yn unig mae milwyr Twrci yn bresennol yn y dinasoedd, yn enwedig yn y de- ddwyrain lle mae nifer o Gwrdiaid, ond maen nhw hefyd yn y gorsafoedd pleidleisio.

“Dyma’r un ymddygiad ag oedd gan yr AKP ar sawl achlysur yn y gorffennol,” meddai Hazel Eris wrth golwg360.

“Dywedodd arsylwyr etholiadau eraill rydw i wedi bod efo nhw, ac sydd wedi bod i etholiadau eraill, wrthym fod ymgyrchoedd milwrol llawer mwy dwys wedi bod yn y gorffennol.

“Eleni, roedden nhw’n dal yn bresennol.

“Mae milwyr Twrci yn bresennol yn gyffredinol yn y dinasoedd, yn enwedig yn ardaloedd Cwrdaidd y de-ddwyrain – dyna gerbydau arfog gyda churadiaid, milwyr a heddlu arfog ym mhob man.

“Roedden nhw hefyd yn bresennol yn y gorsafoedd pleidleisio, ac maen nhw’n bresennol yn y dinasoedd yn gyffredinol, mae’n debyg, i geisio gwneud y boblogaeth yn ofnus, i geisio atal unrhyw fath o wrthsafiad.

“Mae’n rhaid i bobol gael eu dychryn yn gyson.

“Yn y bŵth pleidleisio y tro hwn, y prif beth ddigwyddodd oedd mai llygredd gweinyddol oedd y prif beth allweddol newidiodd y pleidleisiau.

“Roedd yna achosion ar ddiwrnod yr etholiad, er enghraifft, o bobol yn cael eu harestio.

“Roedd dwsinau a dwsinau o filwyr yn dod o bob rhan o’r lle i bleidleisio mewn gwahanol ardaloedd, yn yr ardaloedd Cwrdaidd.”

Llygredd etholiadol

Yn ôl Hazel Eris, mae llygredd gwleidyddol yn dew.

Dywed fod pobol o Sbaen oedd yno i arsylwi’r etholiad wedi’u diarddel o’r wlad, pobol eraill oedd yn arsylwi’r etholiad yn cael eu bygwth efo’r gyfraith, pleidleisiau wedi’u stampio a phleidleisiau Plaid Yesil Sol yn cael eu rhoi i Blaid y Mudiad Cenedlaethol (MHP).

“Gwyddom fod tri chynrychiolydd o Sbaen, un parliamentarian ac un cynrychiolydd undeb sydd â phroffil uchel, wedi’u diarddel o’r wlad,” meddai.

“Cawson nhw eu cadw ac yna eu halltudio, dim ond am arsylwi’r etholiadau.

“Roedd rhai achosion o bobol yn dod o hyd i bleidleisiau wedi’u stampio am ddim a’r math yma o beth, a’r AKP yn bygwth cyfraith ar bobol oedd yno i arsylwi.

“Y prif fath o lygredd ddigwyddodd, ac a newidiodd pethau fwyaf, oedd y ffaith bod miloedd ar filoedd o bleidleisiau.

“Dydyn ni ddim yn gwybod eto faint, oherwydd ei fod yn dal yn y broses o gael ei wirio oherwydd ei fod wedi’i nodi’n anghywir.

“Er enghraifft, rydym wedi gweld tystiolaeth mewn sawl maes fod pleidleisiau Yeşil Sol wedi’u dyrannu i MHP.

“Mae Plaid Yeşil Sol yn blaid seneddol fwyafrifol Cwrdaidd adain chwith sydd dros hawliau iaith, amlethnigrwydd, rhyddid merched a grymuso ieuenctid.

“Mae MHP yn un o’r pleidiau sy’n rheoli ac sy’n gweithio ochr yn ochr ag AKP.

“Mae MHP yn sefydliad asgell dde eithafol sydd â mudiad ieuenctid parafilwrol sydd wedi cyflawni llofruddiaethau, yn enwedig yn erbyn y boblogaeth Gwrdaidd.”

Tystiolaeth ar lawr gwlad

Eisoes mae nifer o garcharorion gwleidyddol dan glo, a phe bai Erdoğan yn ennill yr etholiad, y disgwyl yw y bydd llawer mwy.

“Rydym wedi gweld tystiolaeth uniongyrchol sydd wedi’i dosbarthu o’r math hwn o dwyll, sef y bwrdd etholiadol goruchaf erbyn hyn,” meddai Hazel Eris.

“Mae llawer o wrthwynebiadau i’r CHP, sef y brif wrthblaid.

“Maen nhw fel plaid weriniaethol seciwlar, mae’n debyg, ac mae Yeşil Sol wedi gwrthwynebu llawer am y twyll hwn.

“Mae’r bwrdd etholiadol yn y broses o edrych drwy’r gwrthwynebiadau hyn ac adleoli’r pleidleisiau yn ôl.

“Mae’r system gyfreithiol, yn gyffredinol, wedi cael ei dylanwadu’n aruthrol gan bŵer Erdoğan, arlywydd Twrci, sydd hefyd yn arweinydd ar yr AKP.

“Yn 2017, newidiodd y system seneddol yn un arlywyddol, a phenododd y mwyafrif o’r bobol sy’n sefyll ar ben y llysoedd ac ar draws y system gyfreithiol yn ogystal â’r cyfryngau.

“Felly mae’n ddeinameg eithaf anodd i bobol ar lawr gwlad.

“Bydd llawer o ddial os bydd Erdoğan yn ennill.

“Eisoes, mae tua 10,000 o garcharorion gwleidyddol, carcharorion gwleidyddol Cwrdaidd yn unig.

“Mae yna filoedd ar filoedd o garcharorion gwleidyddol Twrcaidd ac eraill hefyd.

“Mae pobol yn ofni’n fawr ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd.”