Mae gan Lidl 55 o siopau ar draws Cymru ac ym mis Ionawr eleni dyma oedd yr archfarchnad gyntaf i sicrhau cymeradwyaeth i’w Cynnig Cymraeg.
Ers 2014, mae Lidl wedi darparu arwyddion dwyieithog, ac ers hynny, maen nhw wedi cynyddu eu hymrwymiad i’w siaradwyr Cymraeg, yn gwsmeriaid ac yn staff.
Maen nhw bellach yn buddsoddi mewn cynnig gwasanaethau Cymraeg ar draws pob agwedd ar eu gwaith yng Nghymru, gan gynnwys:
- cyhoeddiadau mewn siopau
- bathodynnau enwau gweithwyr
- llinellau ffôn cwsmeriaid a gohebiaeth ysgrifenedig
- pecynnu ar holl gynnyrch Cymreig lleol, sydd ar hyn o bryd yn golygu 70 darn o gynnyrch
- tiliau hunan-wasanaeth
- diweddariadau cyfryngau cymdeithasol perthnasol
“Yn Lidl, rydym wedi ymrwymo i fod yn fanwerthwr cynhwysol, ar gyfer ein cwsmeriaid, ein cymunedau, a’n cydweithwyr,” meddai Ute Thomas, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Lidl yng Nghymru.
“Yng Nghymru, mae diogelu a hyrwyddo ein hiaith yn rhan enfawr o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn gynhwysol.
“Roeddem yn falch iawn i fod yr archfarchnad gyntaf i dderbyn cymeradwyaeth i’n Cynnig Cymraeg, i gydnabod y gwaith rydym wedi ei wneud wrth ddatblygu ein darpariaeth iaith Gymraeg.”
Cynnyrch o Gymru
Mae dewis Lidl o nwyddau o Gymru yn cynnwys 70 o gynhyrchion sy’n cwmpasu cynnyrch llaeth blasus, cigoedd cartref, a danteithion melys.
Trwy weithio’n uniongyrchol gyda 130 ffermwyr a theuluoedd sy’n ffermio, mae modd olrhain y cynhyrchion o’r cae i’r siop; mae hyn yn galluogi siopwyr yng Nghymru i fwynhau cig eidion a fagwyd yn lleol ac sydd o’r ansawdd uchaf.
“Rydym yn falch o allu cynnig y cynnyrch lleol mwyaf ffres, ac wedi lansio ystod newydd o gynnyrch cig eidion Cymreig, fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi ffermwyr lleol,” meddai Ute Thomas.
“Rydym yn teimlo’n angerddol ynghylch y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt, ac yn cefnogi’r pethau sydd yn wirioneddol bwysig i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr.
“Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd y gallwn gefnogi’r Gymraeg, sy’n rhan mor bwysig o hunaniaeth a threftadaeth ein cymunedau.”