Wrth i ni bellhau o argyfwng Covid a cheisio gwneud synnwyr o’r cyfnod anghyffredin hwnnw, mae’r cwest presennol yn cwestiynu cof neu angof yr arweinyddion oedd yn gyfrifol am y penderfyniadau bron i ddwy flynedd yn ôl. I nifer o wleidyddion a swyddogion meddygol efallai mai angof yw’r modd gorau o ddygymod â’r cwestiynu di-baid, y camleoli papurau, nodiadau a negeseuon ffôn cymdeithasol neu swyddogol a ddilëwyd ac a anghofiwyd. Ond beth os yw’r cwestiynu yn ymestyn dros gan mlynedd yn ôl? Sut mae’r nodiadau, papurau a’r negeseuon yn ymddangos yn y cof yn yr achosion hynny?

Mae dewisiadau cofio yn dibynnu ar bwysigrwydd y pwnc dan sylw: mae materion teulol, gwaith neu apwyntiadau yn weddol uchel o ran pwysigrwydd cofio. Ond wrth geisio cofio argyfwng hanesyddol megis pandemig Covid-19 neu’r ddau Ryfel Byd mae ein hatgofion yn newid ac yn aros yn rhan annatod o ymennydd y rhai brofodd y digwyddiadau.

Amcangyfrifir bod erchylltra’r digwyddiadau hyn yn cael eu selio am oes yn yr ymennydd, ac os yw rhywun yn cwestiynu profiad a chof yr unigolyn mae’r unigolyn yn tueddu i geisio amddiffyn y cofio hwnnw yn eithaf cadarn. Un o’r digwyddiadau mwyaf yn hanes dynoliaeth yn yr ugeinfed ganrif a aeth yn angof bron o fewn degawd i’r dyddiad y gorffennodd, oedd yr anwydwst. Beth oedd yr anwydwst? Term sy’n angof bellach ond term a oedd yn llenwi papurau Cymru am bron i flwyddyn rhwng Mai 1918 ac Ebrill 1919. Term a gafodd ei gymysgu’n rheolaidd gyda influenza, ffliw mawr, neu’r ffliw Ysbaenaidd. Achosodd pandemig 1918-19, fel y mae haneswyr heddiw yn ei alw, dros 50 miliwn o farwolaethau ar draws y Byd.

Un o’r marwolaethau hyn a achoswyd gan yr anwydwst ar Fai 30 1918 oedd Frederick Trump,taid tadol Donald Trump, ac er i’w nain, Elizabeth Trump, etifeddu ystâd oedd ar y pryd gwerth $31,359 (dros hanner miliwn dolar heddiw) ychwanegwyd arian yswiriant ar gyfer y golled deuluol. Ac felly ynghyd â nifer o asedau, busnesau a thiroedd dechreuwyd Elizabeth Trump & Son ac yna yn y chwedegau The Trump Organization.

Pan oedd Donald Trump yn arlywydd yn ystod pandemig Covid-19 gofynnwyd iddo a oedd yn adnabod rhywun oedd wedi marw o ganlyniad i goronafeirws – atebodd nad oedd. Gan ei fod yn amau bodolaeth y feirws, yr oedd ar ben hynny yn amau hanes ac hanes ei deulu ef ei hun. Nid oes amheuaeth y bu ei  deulu yn llwyddiannus iawn a’r ôl i’w daid ymfudo o’r Almaen i America a’r ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Teg felly yw cysylltu Trump â’r anwydwst gan fod cyfoeth ei daid a thaliad yswiriant wedi rhoi hwb sylweddol i’w fusnes enfawr yn America.

Ni anghofir erchyllterau’r ddau Ryfel Byd, a gan fod yr anwydwst yn ystod ac ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe’i anghofiwyd. Ni ddaeth i amlygrwydd tan tua’r saithdegau pan gyhoeddwyd llyfr o bwys gan Alfred W. Crosby, America’s Forgotten Pandemic yn 1976 ac yna cafodd sylw pellach drwy gofio ei ganmlwyddiant, yna cryn dipyn o sylw pan gyrhaeddodd pandemig Covid-19. Ym mis Mehefin 1919 ac wedi’r anwydwst, arwyddwyd cytundeb Versailles a oedd yn gosod rheolau llym ar yr Almaen yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl chwe mis o drafod cosbwyd Yr Almaen drwy eu diarfogi a thrwy golli tir ac o ganlyniad achoswyd caledi mawr ar y boblogaeth.

Un o’r arweinwyr a oedd yn rhan o’r drafodaeth oedd arlywydd America Woodrow Wilson. Penderfynodd yn erbyn gosod y fath gosb eithafol ar yr Almaen, ond yn ystod y trafodaethau nid oedd yn iach. Mae nifer cynyddol o haneswyr yn argyhoeddedig ei fod yn dioddef o’r anwydwst neu’r ffliw Ysbaenaidd. Oherwydd ei gyflwr nid oedd yn medru darbwyllo gweddill y cynghreiriad i leihau’r gosb, ac yn benodol, Lloyd George, a oedd yn benderfynol o gosbi’r gelynion.

Canlyniad y gosb ar yr Almaen oedd sefydlu Gweriniaeth Weimar, ac yno tyfodd y Natsïaid a phŵer a phoblogrwydd Hitler oherwydd ei bolisïau i gryfhau’r Almaen a dileu tlodi a diweithdra. Fel ymateb i hyn tyfodd grym y Natsïaid yn enwedig ar ôl llwyddiant yn yr etholiadau o 1932 i 1938. Yn swyddogol fodd bynnag, 12 mlynedd y parhaodd y blaid Natsiaidd ac erbyn diwedd y cyfnod hwnnw newidiodd atgof bron i bawb a brofodd yr Ail Ryfel Byd ac yn ogystal, atgof y cenedlaethau a ddilynodd.

I raddau helaeth mae gan bawb gof dethol a phan mae erchylltra mawr yn ganlyniad i gannoedd o filoedd o farwolaethau mae’n anodd cynrychioli hynny yn y cof. I Trump, er bod ganddo gof yn ymwneud a’i eiddo a’i arian, angof oedd gwreiddiau ei gyfoeth teuluol. Gellir dadlau erbyn hyn bod ei gof yn ymwneud â’i fusnes yn angof hefyd. Ac wrth anghofio ei hanes, neu unrhyw hanes, gellir deall pam bod rhan fawr o’r ymennydd yn gwrthod cofio, nid o reidrwydd yn methu cofio.

Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.