Pūtahitanga: gair te reo Māori (yr iaith Māori) sy’n disgrifio cymuned yn dod at ei gilydd er mwyn cydweithio ar syniad, pwnc, neu her benodol. Mae’r gair yn ymgorffori ethos y prosiect ymchwil sy’n ei ddefnyddio fel teitl: Prosiect Pūtahitanga. Dyma brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato, gyda chefnogaeth gan FOCUS Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n archwilio cerddoriaeth boblogaidd, iaith a hunaniaeth yn y cyd-destun Cymreig a’r cyd-destun Māori.
Dechreuodd y prosiect drwy sgwrs banel rithiol yn ystod haf 2022. Yn sgil hynny, daeth Half/Time, band ôl-pync Māori o Aotearoa (Seland Newydd) i Gymru ym mis Mai 2023 i berfformio yng ngŵyl FOCUS Cymru yn Wrecsam. Roeddwn i a Dr Joseph O’Connell o Brifysgol Caerdydd hefyd yn yr ŵyl yn cyfweld â cherddorion – gan gynnwys Half/Time – oedd yn defnyddio’r Gymraeg neu’r iaith Māori yn eu gwaith fel rhan o’r ymchwil.
Bwriad y prosiect yn ei hanfod yw dod o hyd i bwyntiau cyswllt rhwng profiadau cerddorion sy’n defnyddio’r ddwy iaith leiafrifol, gan geisio deall yr heriau amrywiol sy’n wynebu’r cymunedau cerddorol hyn, ond heb gymharu’n uniongyrchol. Ym mis Mai 2023, roedd aelodau o Half/Time a CHROMA yn rhan o sgwrs banel ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd yn rhoi’r cyfle i’r artistiaid rannu eu profiadau mewn fforwm gyhoeddus. Wrth gynllunio camau nesaf y prosiect, roedd hi’n hollbwysig inni flaenoriaethu’r ethos cydweithredol hwn er mwyn rhoi gofod teilwng i leisiau artistiaid drwy gydol yr ymchwil.
Ail gam cyffrous y prosiect oedd taith criw Prifysgol Caerdydd, Andy Jones o FOCUS Cymru, a CHROMA i Aotearoa ym mis Tachwedd 2023. Yn ystod y daith, cynhaliwyd gigs gyda Half/Time a CHROMA, sgyrsiau panel gydag aelodau’r prosiect, a gweithgarwch ymchwil a chasglu data. Trwy Grant Arloesi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cynhaliwyd gweithdai ymchwil gydag artistiaid cerddorol sy’n defnyddio te reo Māori yn eu gwaith yn Aotearoa, ac artistiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg wedi dychwelyd o’r daith.
Oherwydd natur y prosiect, roedd hi’n bwysig defnyddio dulliau ymchwil gydweithredol-greadigol, a hynny er mwyn i leisiau’r cyfranogwyr fod yn ganolog i’r ymchwil. Yn hanesyddol, nid yw te ao (bydolwg) na matauranga (gwybodaeth draddodiadol) Māori wedi bod yn rhan o’r traddodiad academaidd yn Aotearoa. Mae hyn wedi arwain at anghydraddoldeb a rhagfarn yn y sefydliadau, ac wedi achos i lawer o’r Māori fethu ag ymddiried mewn strwythurau academaidd, fel mae Linda Tuhiwai Smith wedi trafod yn ei llyfr Decolonizing Methodologies (2012). Roedd hi’n hollbwysig felly i sicrhau nad oedd y gweithdy yn Aotearoa, oedd wedi’i arwain gan ymchwilydd Ewropeaidd gwyn, yn cynnal y strwythurau hanesyddol hyn. Mae defnyddio dulliau ymchwil cydweithredol-greadigol yn un ffordd o geisio sicrhau, fel y dywed O’Neill, ‘a participatory ethos of inclusion, participation, valuing all voices’ (2017).
Roedd dau hanner i’r gweithdai: trafodaeth, ac ymateb creadigol. Roedd yr hanner cyntaf yn drafodaeth lled-strwythuredig ar ffurf trafodaeth grŵp, gyda’r ymchwilydd yn awgrymu trywyddau thematig i’r sgwrs drwy gwestiynau, ond gan adael hefyd i’r sgwrs lifo’n naturiol o ran cynnwys a phwnc. Yma eto, y bwriad oedd rhoi pŵer i’r rheiny oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil gan adael i’r sgwrs ddilyn ei thrywydd, yn wahanol i grŵp ffocws mwy traddodiadol, sy’n llawer mwy strwythuredig o ran cwestiynau. Cafodd yr holl gyfranogwyr bapur a blociau Post-It er mwyn iddyn nhw nodi unrhyw eiriau, syniadau, dyfyniadau neu themâu oedd yn eu taro’n arwyddocaol yn ystod y drafodaeth.
Yn ail hanner y gweithdy, gwahoddwyd y cyfranogwyr i ymateb yn greadigol i’r drafodaeth flaenorol drwy greu darn ysgrifenedig, gan ddefnyddio eu nodiadau o’r hanner cyntaf fel sbardun. Nod defnyddio dull creadigol fel hyn oedd i flaenoriaethu nid yn unig leisiau a phrofiadau’r cyfranogwyr (fel yn Rhan 1 y gweithdy), ond i gynnig dull gwahanol o gyflwyno a chynhyrchu gwybodaeth, sy’n ymddangos efallai’n ‘anacademaidd’. Mae Chambers (2023), wrth drafod ei phrosiect ymchwil gyda menywod HIV+ o dras Affricanaidd oedd yn defnyddio barddoniaeth i gasglu a rhannu data’r ymchwil, yn dadlau bod barddoniaeth yn rym dad-drefedigaethol. Roedd y bwriad yn un tebyg yma hefyd: i leihau’r bwlch rhwng ymchwilydd a chyfranogwr, ac i annog ffyrdd amrywiol i fynegi syniadau.
Roedd yr ymatebion creadigol eu hunain yn amrywio o ran dull, pwnc, ac iaith. Yn achos y gweithdy yn Aotearoa, ysbrydolwyd un artist, Isiah McIver, i gyfansoddi pennill gweddol orffenedig o rap yn te reo Māori a fyddai, meddai, yn sail i gân hirach maes o law. Roedd wedi defnyddio brawddeg a ddywedwyd gan un o’r cyfranwyr eraill yn ystod y drafodaeth: ‘Māori in your face’. Roedd artist arall, Charles Clover (CNC), wedi cynllunio cân yn hytrach na’i chyfansoddi ar y pryd, gan ddefnyddio dull ‘song tree’ er mwyn adnabod prif bwnc ‘boncyff’ y gân (h.y. y cytgan) a mapio syniadau’r ‘canghennau’ cysylltiol fyddai wedyn yn ffurfio’r penillion, a hynny yn ddwyieithog (Saesneg a te reo Māori).
Yng Nghaerdydd, roedd Iwan Williams (Hyll) wedi creu cynllun ‘rhizome’ i’w gân Gymraeg yntau, gan adlewyrchu’r modd y mae planhigion fel sinsir, bambŵ, neu datws yn tyfu: mae gan bob ran o’r rhizome dan y ddaear y gallu i dyfu egin newydd o’r planhigion, gan wasgaru a thyfu i sawl cyfeiriad. Dywedodd, wrth esbonio’r broses, bod dull coeden CNC wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo, ond ei fod yn teimlo bod strwythur organism rhizome yn dangos yn well y ffordd yr oedd e’n gweld themâu a syniadau’r drafodaeth yn cysylltu ac yn tyfu o’i gilydd. Dewisodd Keziah O’Hare (Kawr) chwarae gyda’r Post-Its i gelu a datgelu geiriau Cymraeg a Saesneg ar y tudalennau er mwyn mynegi syniad o bersonoliaeth ddeuol sy’n deillio fod yn berson dwyieithog, tra bo Katie Hall (CHROMA) wedi ysgrifennu mewn arddull llif yr ymwybod dwyieithog. Mae adnodd wedi’i greu ar gyfer Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn deillio o’r gweithdai hyn, a fydd yn fyw ar wefan y Porth cyn hir.
Yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gyfranogwyr gyfathrebu, cyflwyno, a chynhyrchu gwybodaeth drwy ddulliau creadigol, rwyf hefyd wedi bod yn cynhyrchu darnau o farddoniaeth fel ymatebion creadigol i’r prosiect. Mae bwriad i gyhoeddi rhai o ganfyddiadau’r prosiect drwy’r dulliau academaidd arferol, megis erthyglau, ond mae yna fwriad hefyd i gyhoeddi casgliad o’r cerddi hyn, sydd hefyd yn ymddangos ar gyfrif Instagram y prosiect, er mwyn croesawu gwahanol gynulleidfaoedd i gymuned syniadol Prosiect Pūtahitanga.