Mae Amgueddfa Lechi Cymru wedi derbyn cyfran o arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n werth £14.8m, er mwyn helpu i greu dyfodol mwy disglair i orffennol diwydiannol y Deyrnas Unedig.
Mae £412,565 wedi’i ddyrannu i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, gyda’r nod o’i thrawsnewid yn atyniad o safon fyd-eang i ymwelwyr.
Daeth yr Amgueddfa’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021.
Bydd yr arian datblygu’n galluogi’r amgueddfa i fwrw ymlaen â’r cynlluniau, ac i gyflwyno cais am grant llawn o £9,440,414 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn y dyfodol.
Hanes yr Amgueddfa Lechi
Gan agor ei drysau ym 1972, mae’r amgueddfa wedi’i lleoli o fewn gweithdai Fictoraidd rhestredig Gradd I Chwarel hanesyddol Dinorwig, sy’n cynnwys bythynnod chwarelwyr, locomotifau gweithiol ac inclein Vivian, ochr yn ochr ag olwyn ddŵr weithredol fwyaf y Deyrnas Unedig.
Mae llechi o Gymru, gafodd eu ffurfio tua 500m o flynyddoedd yn ôl, wedi’u cydnabod yn gyffredinol fel llechi naturiol gorau’r byd.
Mae’r Amgueddfa yn adrodd hanes sut roedd y chwarel a’r diwydiant llechi’n hollbwysig i filoedd o weithwyr a’u teuluoedd, yn ogystal â’r pentrefi a’r trefi fyddai’n tyfu i gwrdd â’r galw am weithwyr.
Bydd y prosiect, sy’n cael ei arwain gan Amgueddfa Cymru, yn gwarchod ac yn gwella cyflwr y dreftadaeth adeiledig, gan ei thrawsnewid i fod yn ganolbwynt dehongli Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, a chreu gofodau i gefnogi sgiliau traddodiadol, dysgu a lles.
Dyfarnodd UNESCO statws Safle Treftadaeth y Byd i dirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru yn 2021, i gydnabod rôl y rhanbarth o “roi toeon ar fyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg”.
Mae’r Amgueddfa’n adrodd storïau’r dynion a’r menywod siapiodd dirwedd Cymru ac oedd wedi cyfrannu at bensaernïaeth a seilwaith byd-eang.
Mae’r ariannu heddiw yn rhan o gynllun ailddatblygu ehangach gwerth £19m sydd â’r nod o alluogi i’r storïau hyn am y diwydiant llechi a’r dirwedd gyrraedd cynulleidfa ehangach yng ngogledd Cymru a thu hwnt.
‘Carreg filltir yn hanes yr Amgueddfa’
“Rydym wrth ein boddau â derbyn yr ariannu hwn ac yn ddiolchgar tu hwnt i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol,” meddai Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.
“Yn ogystal â thrawsnewid ein hamgueddfa, bydd hyn hefyd yn newid y ffordd y gallwn adrodd hanes tirwedd llechi treftadaeth y byd gogledd-orllewin Cymru.
“Mae’r ariannu hwn yn nodi carreg filltir yn hanes yr Amgueddfa, a bydd yn ein galluogi i gysylltu â chymunedau ar draws Cymru a’r byd.
“Trwy ddatblygu mannau creadigol newydd, bydd modd i ni ddod â’r casgliad cenedlaethol ac arddangosfeydd newydd i ogledd Cymru am y tro cyntaf.
“Byddwn hefyd yn creu cyfleoedd i bobl o bob cefndir fwynhau, dysgu a datblygu sgiliau crefft traddodiadol, gan gynyddu cyflogaeth a lles, a chreu cysylltiadau gwell rhwng pobol a chymunedau gyda’n casgliadau gwych.”
‘Amser tyngedfennol i Dirwedd Llechi Cymru’
Yn ôl Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, mae’n “amser tyngedfennol i Dirwedd Llechi Cymru”.
“Felly mae’n gyffrous gweld datblygiad y cynlluniau i Amgueddfa Lechi Cymru fod wrth wraidd adrodd ei hanes a pharhau â’i hetifeddiaeth ddiwydiannol,” meddai.
“Mae’n bleser gennym ddyfarnu’r ariannu hwn i alluogi’r cynlluniau hynny i gael eu datblygu ac edrychwn ymlaen at weld sut y gall y prosiect hwn drawsnewid yr amgueddfa ar gyfer ymwelwyr, sut y gall pobol gymryd rhan mewn siapio eu treftadaeth a sut y bydd cymunedau yng ngogledd-orllewin Cymru a thu hwnt fod ar eu hennill.”
‘Rhan bwysig o gymunedau, tirweddau a threftadaeth’
“Mae buddsoddiad Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, ynghyd â’r ariannu y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu, yn newyddion gwych,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
“Mae’r diwydiant llechi’n rhan bwysig o gymunedau, tirweddau a threftadaeth yr ardal, sy’n un o’n Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, ac mae gan Amgueddfa Lechi Cymru ran allweddol i’w chwarae wrth warchod ei hanes ac adrodd ei stori.
“Edrychaf ymlaen at weld cynnydd y gwaith ailddatblygu cyffrous hwn.”