Bydd yr etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd yn ras rhwng pedair plaid wleidyddol.

Bydd pleidleiswyr yn yr ardal yn bwrw eu pleidlais ar Fai 2, i ethol Comisiynydd y bydd eu cyfrifoldebau’n cynnwys pennu cyllideb Heddlu’r Gogledd a dwyn Prif Gwnstabl y llu i gyfrif.

Mae Andy Dunbobbin (Llafur), y Comisiynydd presennol, ymhlith y rhai fydd yn sefyll ar ôl i gyn-gynghorydd Sir y Fflint gael ei ethol gyntaf ym mis Mai 2021.

Yr ymgeiswyr eraill yw:

  • Brian Jones, cynghorydd lleol o’r Rhyl (Ceidwadwyr)
  • Ann Griffith, cyn-Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd (Plaid Cymru)
  • Richard Marbrow, cyn-gynghorydd o Lerpwl (Democratiaid Rhyddfrydol).

Cyn yr etholiad, mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hatgoffa fod angen dod â cherdyn adnabod ffotograffig gyda nhw, megis pasbort neu drwydded yrru, i’r orsaf bleidleisio o ganlyniad i newid yn y gyfraith.