Mae cynghorydd wedi croesawu’r newyddion na fydd Cadw yn rhestru Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.

Cafodd cais ei gyflwyno fis Tachwedd y llynedd yn gofyn am ystyried rhestru’r ysgol, gan fod adeiladau presennol yr ysgol yn enghraifft o arddull pensaernïaeth fodernaidd gafodd ei chynllunio gan y pensaer Herbert Carr.

Ond wedi i Cadw ystyried y cais, mae Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Glantwymyn, yn falch o glywed na fydd yr ysgol yn cael ei rhestru wedi’r cyfan.

Mae penderfyniad Cadw yn golygu y gall y gwaith cynllunio ar gyfer adeilad ysgol newydd hirddisgwyledig ar gyfer ysgol gynradd ac uwchradd Ysgol Bro Hyddgen fynd yn ei flaen, yn dilyn ychydig o fisoedd o oedi.

‘Newyddion da iawn’

“Mae’n newyddion da iawn ac i’w groesawu ar ôl cyfnod heriol,” meddai Elwyn Vaughan, sydd hefyd yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen, wrth golwg360.

“Ac wrth gwrs, mae’n braf bod synnwyr cyffredin wedi achub y dydd.

“Roedd o’n bryder gwirioneddol.”

Roedd Elwyn Vaughan yn feirniadol o’r cais pan gafodd ei gyflwyno, gan ddweud ei fod yn “boncyrs”.

“Mae’r boiler yn torri’n aml, llechi yn dod oddi ar y to, dŵr yn dod mewn, cost enfawr ar wresogi, ac mae rhyw ffŵl isio cofrestru’r lle er bod digon o esiamplau tebyg ar hyd a lled Maldwyn,” meddai pan gafodd y cais ei gyflwyno.

“A thrwy wneud hynny, amddifadu ein pobol ifanc o adeilad ac adnoddau haeddiannol y ganrif yma.

“Boncyrs.”

Oedi

Mae disgwyl i waith adeiladu’r ysgol newydd gymryd tua dwy flynedd i’w gwblhau, a bu pryder dros yr oedi yn y broses gafodd ei achosi gan y cais i restru’r adeiladau presennol.

“Petai Cadw yn penderfynu rhestru, mi fyddai hynny wedi achosi oedi, cost ychwanegol ac wedi cymhlethu’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol,” meddai Elwyn Vaughan.

“Be’ oedd yn rhwystredig oedd y ffaith bod y cynlluniau [ar gyfer yr ysgol] wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd.

“Y sefyllfa ydy, mae’r cynlluniau gan y pensaer yn barod i’w cyflwyno, felly byddan nhw’n mynd i’r adran gynllunio yn fuan.

“Ac wedyn ar gyfer y broses gynllunio ffurfiol, mae angen sêl bendith cyn mynd allan i gomisiynu contractwyr, a’r gobaith ydy penodi’r rheiny ddechrau’r haf yma efo’r llygaid ar eu cael nhw ar y safle rhwng diwedd y flwyddyn a dechrau’r flwyddyn nesaf, gobeithio.”