Mae’n “boncyrs” fod Cadw wedi derbyn cais i restru adeilad Ysgol Uwchradd Bro Hyddgen ym Machynlleth, yn ôl cynghorydd sir.
Daeth i’r amlwg ddoe (dydd Llun, Chwefror 12) y bydd oedi cyn adeiladu ysgol bob oed newydd gwerth £49m ym Mhowys.
Yr haf diwethaf, roedd disgwyl y byddai cynlluniau ar gyfer adeilad ysgol newydd hir-ddisgwyliedig ar gyfer ysgol gynradd ac uwchradd gyfun Machynlleth, Ysgol Bro Hyddgen, yn cael eu rhoi i Gyngor Sir Powys cyn gynted â mis Medi.
Er nad yw’r cais cynllunio wedi’i gyflwyno’n ffurfiol o hyd, cafodd sesiynau galw heibio eu cynnal yn yr ysgol ym mis Rhagfyr i ganiatáu i bobol weld y cynnig, fel rhan o ymgynghoriad statudol cyn-cais cynllunio.
Ond bellach, fe allai’r broses gyfan gael ei chwalu gan fod Cadw, gwasanaeth hanesyddol ac amgylcheddol Llywodraeth Cymru, wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael cais i restru’r adeilad.
“Cawsom geisiadau i ystyried Ysgol Bro Hyddgen i’w rhestru ym mis Tachwedd 2023 ac mae’r cais yn cael ei ystyried ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran Cadw.
‘Sefyllfa hurt bost’
Mae hi’n “sefyllfa hurt bost”, yn ôl Elwyn Vaughan, cynghorydd sir Plaid Cymru.
“Mae’r boiler yn torri’n aml, llechi yn dod oddi ar y to, dŵr yn dod mewn, cost enfawr ar wresogi, ac mae rhyw ffŵl isio cofrestru’r lle er fod digon o esiamplau tebyg ar hyd a lled Maldwyn,” meddai.
“A thrwy wneud hynny, amddifadu ein pobol ifanc o adeilad ac adnoddau haeddiannol y ganrif yma.
“Boncyrs.”
Mae Cyngor Sir Powys wedi cael cais am ymateb.