Gall fod rhwystr yn y ffordd, ac oedi cyn adeiladu ysgol bob oed newydd gwerth £49m ym Mhowys.

Yr haf diwethaf, roedd disgwyl y byddai cynlluniau ar gyfer adeilad ysgol newydd hir-ddisgwyliedig ar gyfer ysgol gynradd ac uwchradd gyfun Machynlleth, Ysgol Bro Hyddgen, yn cael eu rhoi i Gyngor Sir Powys cyn gynted â mis Medi.

Er nad yw’r cais cynllunio wedi’i gyflwyno’n ffurfiol o hyd, cafodd sesiynau galw heibio eu cynnal yn yr ysgol ym mis Rhagfyr i ganiatáu i bobol weld y cynnig, fel rhan o ymgynghoriad statudol cyn-cais cynllunio.

Ond bellach, fe allai’r broses gyfan gael ei chwalu gan fod Cadw, gwasanaeth hanesyddol ac amgylcheddol Llywodraeth Cymru, wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael cais i restru’r adeilad.

“Cawsom geisiadau i ystyried Ysgol Bro Hyddgen i’w rhestru ym mis Tachwedd 2023 ac mae’r cais yn cael ei ystyried ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran Cadw.

Cynnig

Cafodd y cynnig ar gyfer campws yr ysgol newydd ei grybwyll am y tro cyntaf yn 2017, ac mae problemau wedi eu llethu.

Roedd prosiect gwreiddiol Bro Hyddgen wedi dioddef o ganlyniad i gwymp y cwmni adeiladu Dawnus yn 2019, arweiniodd at y cynigion diwygiedig mwy o faint.

Ym mis Hydref 2022, dewisodd y Democratiaid Rhyddfrydol/Cabinet Llafur leihau’r cynlluniau ar gyfer campws ysgol newydd Machynlleth.

Roedd disgwyl i’r campws newydd gynnwys cyfleusterau llyfrgell a hamdden ar gost o ryw £48m yn 2020.

Ond erbyn mis Hydref 2022, roedd y gost wedi codi’n sylweddol i £66m.

Bydd gollwng y ganolfan hamdden o’r prosiect yn golygu bod y costau’n disgyn yn ôl i £49.12m, gyda 65% o’r cyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr achos busnes diwygiedig ei gytuno gan Lywodraeth Cymru fis Ionawr diwethaf.

Y gobaith oedd y bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu ac yn agor ei drysau i ddisgyblion yn 2026.

Mae ceisiadau i restru adeilad wedi effeithio ar brosiectau adeiladu ysgolion diweddar eraill yn y Trallwng, sydd wedi achosi oedi ac ychwanegu miliynau o bunnoedd at gost cynlluniau.

Mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn cais am sylw.