Mae adar môr Cymru mewn perygl enbyd, yn ôl adroddiad newydd gan yr RSPB.

Mae’r adroddiad yn archwilio effaith Ffliw Adar Pathogenic Iawn, ac wedi cadarnhau dirywiad difrifol.

Dyma’r astudiaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig sy’n ceisio mesur effeithiau’r achosion diweddar o Adar Pathogenig Iawn ar boblogaethau adar y môr.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddirywiad sylweddol yn nifer yr Huganod, y Gwylanod Penddu, y Gwylanod Cefnddu Lleiaf, y Môr-wenoliaid Cyffredin a’r Môr-wenoliaid Pigddu ledled Cymru.

Mae arolygon diweddar yn dangos bod rhai o adar môr Cymru mewn trafferthion enbyd, gyda ffliw adar yn ychwanegu at y bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys cael eu rheibio gan famaliaid anfrodorol, a newid hinsawdd.

Dirywiad dros gyfnod o flwyddyn

Roedd Huganod, Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid Pigddu ymysg yr unarddeg o rywogaethau oedd yn cynyddu mewn niferoedd yng Nghymru cyn yr achosion o ffliw adar, gafodd eu cofnodi gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 2021.

Mae’r adroddiad yn datgelu bod nifer yr Huganod wedi gostwng 54% yng Nghymru ers 2015, sy’n drychinebus, a bod niferoedd y Môr-wenoliaid Cyffredin a’r Môr-wenoliaid Pigddu hefyd wedi gostwng dros 40%.

Roedd 10% o boblogaeth Huganod Prydain ac Iwerddon i’w gweld yng Nghymru, sy’n golygu bod goblygiadau’r dirywiad hwn yn rhyngwladol.

Mae Gwylanod Penddu yn rhywogaeth sydd ar y rhestr Goch oherwydd bod eu niferoedd wedi gostwng o’r blaen, a’r rhain sydd wedi dioddef y gostyngiad mwyaf (-77%) o’r holl rywogaethau adar y môr yng Nghymru ers cyfrifiad Seabirds Count yn 2015–21.

Ar ben hynny, mae niferoedd y Gwylanod Cefnddu Lleiaf wedi gostwng 24% o nythfeydd naturiol.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu, yn y safleoedd gafodd eu harolygu, fod niferoedd rhywogaethau eraill fel Gwylanod Coesddu a Gwylanod Penwaig yn dal i ostwng mewn safleoedd nythu naturiol.

Roedd y rhywogaethau hyn yn dirywio cyn yr achosion o ffliw adar oherwydd y llu o fygythiadau eraill y mae adar y môr yng Nghymru yn eu hwynebu, ond mae’n debygol bod y clefyd wedi effeithio mwy ar rai ohonyn nhw.

Ffliw adar a ffactorau eraill

Daeth ffliw adar i’r amlwg fel bygythiad newydd a sylweddol i adar môr y Deyrnas Unedig yn 2022.

Mae prinder bwyd oherwydd newid hinsawdd, arferion pysgota anghynaliadwy, rhywogaethau estron goresgynnol ar ynysoedd, sgil-ddalfa (anifeiliaid yn boddi ar ôl cael eu dal yn ddamweiniol mewn offer pysgota), yn effeithio ar y moroedd mae adar y môr yn dibynnu arnyn nhw, ac sy’n hanfodol bwysig iddyn nhw, a gallai datblygiadau alltraeth wedi’u lleoli’n wael beri risg bellach.

“Mae poblogaethau adar môr Cymru yn bwysig yn rhyngwladol, ac mae’r adroddiad heddiw yn ychwanegu rhagor o dystiolaeth, pe bai ei hangen, bod angen gweithredu ar frys i’w hachub,” meddai Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru.

“Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr ar gyfer Cymru.

“Mae’n hanfodol fod y Strategaeth yn cael ei chyhoeddi eleni a’i bod yn neilltuo cyllid ar gyfer cadwraeth adar y môr, yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n defnyddio ein moroedd, ac yn helpu nythfeydd i ehangu y tu hwnt i’r safleoedd bridio presennol er mwyn meithrin cadernid ehangach.

“Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod poblogaethau’n cael eu paratoi’n well ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.”