Mae llythyr agored gan Dylan Morgan o fudiad PAWB yn galw ar Ysgrifennydd Tramor San Steffan i weithredu ynghylch y sefyllfa yn Gaza sydd, meddai “y tu hwnt i ddisgrifiad”.

Dywed y llythyr fod yna “hil-laddiad cwbl ddigynsail” yn ninas Rafah.

Daw hyn ar ôl i Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, orchymyn ymosodiadau ar ardal lle mae mwy na miliwn o bobol yn cysgodi ar ôl cael eu dadleoli o ogledd a chanol Gaza.

Camau gweithredu

Mae’r llythyr yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i:

  • ailgychwyn talu cymorth ariannol y Wladwriaeth Brydeinig i UNRWA ar unwaith, gan fod dal yr arian yma yn ôl “yn gwneud sefyllfa sy’n argyfyngus yn Gaza hyd yn oed yn waeth”.
  • pwyso am gadoediad parhaol ar unwaith, gydag Israel wedi lladd sifiliaid Palesteinaidd – tua 70% ohonynt yn fenywod a phlant – “ar raddfa gwbl erchyll ers Hydref 8”, a rhaid i’r cadoediad parhaol arwain at drafodaethau heddwch cynhwysfawr.
  • cydymffurfio â dyfarniadau’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, yn dilyn achos De Affrica yn erbyn Israel, gan fod casgliadau’r llys “yn ddigon eglur ac yn tanlinellu’r cytundeb rhyngwladol na ddylai gweithredoedd hil-laddiad Israel yn Gaza barhau”.

‘Ar ba ochr o hanes ydych chi am fod?’

“Eich dewis chi yw ar ba ochr o hanes ydych chi am fod,” meddai’r llythyr wedyn.

“Ochr gwladwriaeth greulon Israel sydd wedi gormesu Palestiniaid yn systematig ers 1948, neu genedl Palesteina sydd wedi dioddef system hiliol o apartheid?

“Hyderaf y byddwch yn gwneud penderfyniad o blaid dynoliaeth er mwyn ceisio adfer rhywfaint o’ch enw da yn bersonol, er i’r Wladwriaeth Brydeinig fod yn gefnogwr brwd o Israel.”