A ninnau’n byw mewn byd cynyddol dechnolegol, gyda phrosesau cyfathrebu haws a chyfleoedd rhyfeddol mewn amrywiaeth o feysydd, beth sy’n digwydd pan fo’r systemau a’r cyfleoedd hynny i rai yn cau pobol eraill allan?

Yn sicr, mae hi’n arfer bellach i’r rhan fwyaf ohonom ymgysylltu ar-lein trwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddefnyddwyr y we yn 2019, roedd y profiad o ddefnyddio’r rhyngrwyd yn un newydd i 47% o boblogaeth y Deyrnas Unedig oedd yn 75 oed neu’n hŷn.

Mae’n rhaid gofyn, felly, sut mae pobol hŷn yn teimlo am fyw mewn byd sy’n gynyddol ar-lein, ac sydd yn eu hynysu nhw mewn nifer o ffyrdd.

Defnyddio ffônau symudol

I raddau, mae ffonau symudol wedi newid y drefn i bobol hŷn wrth iddyn nhw geisio gwneud yr hyn roedden nhw’n arfer ei wneud yn gyfforddus, megis bwcio apwyntiad llygaid, cysylltu â’r banc, neu siopa.

Mae’r rhan fwyaf o’r prosesau hyn bellach yn digwydd trwy fynd ar wefan, a gwasgu nifer o fotymau er mwyn cael slot amser – proses ddryslyd tu hwnt i bobol sydd wedi arfer mynd i mewn i adeilad a chyfathrebu gyda pherson i wneud y pethau hyn.

Mae un ohonyn nhw, Marguerita Calvert, sy’n 82 oed ac yn dod o Abertawe, wedi bod yn siarad â golwg360 am ei phrofiadau hi gyda thechnoleg.

“Teimlais fod rhaid i mi fuddsoddi mewn ffôn symudol, gan fod yr holl wasanaethau roeddwn i’n eu defnyddio yn cael eu digideiddio,” meddai.

Er ei bod hi’n teimlo nad oedd ganddi unrhyw ddewis ond cael iPhone, dywed ei bod hi’n ofalus wrth ddewis gwasanaethau lle mae opsiwn i drafod yn uniongyrchol â gweithiwr.

“Rydyn ni, bobol hŷn, eisiau siarad gyda pherson go iawn, nid peiriant ar ochr arall y ffôn,” meddai wedyn.

“Dyw e ddim yn brofiad cyfforddus i ni.”

Bancio ar-lein

Does dim syndod, felly, fod y cysyniad o fancio ar-lein wedi achosi problemau i bobol hŷn hefyd.

Wedi’r cyfan, sut y gall rhywbeth fod mor syml fel y gall rhywun reoli eu harian o’u cartref eu hunain?

Yn ôl astudiaeth gan Ipsos, mae 75% o bobol dros 65 oed yn dymuno cynnal o leiaf un cyfarfod wyneb yn wyneb yn eu cangen leol yn lle ar-lein lle bo modd.

Er bod 58% o bobol dros 65 oed yn bennaf ddefnyddio bancio ar-lein i reoli eu prif gyfrif, mae 27% ohonyn nhw o hyd yn defnyddio cangen neu leoliad arall, fel swyddfa bost.

“Yn bersonol, dw i’n gweld y proses o fancio ar-lein yn un cymharol syml,” meddai Marguerita Calvert am ei phrofiadau wrth fancio ar-lein.

“Dw i’n ffodus fod gen i deulu i helpu fi, gan y byddai hi’n broses lethol hebddyn nhw.”

Eglura ei bod hi’n codi ofn ar rywun i gychwyn, heblaw bod ganddyn nhw gymorth nac arweiniad.

Mae astudiaeth Ipsos yn dangos mai’r prif resymau am ofnau pobol hŷn am fancio ar-lein yw’r ofn y byddan nhw’n cael eu twyllo, bod ganddyn nhw diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau ar-lein, a diffyg sgiliau technoleg gwybodaeth.

“Mae’n well gan nifer o fy ffrindiau ddefnyddio arian parod dros gerdyn, ond dydyn nhw ddim yn ymddiried yn y peiriannau yn y wal,” meddai wedyn.

“Y broblem yw, does dim nifer fawr o fanciau yn y trefi rhagor.”

Mae tua 2.4m o bobol hŷn yn dibynnu ar arian parod i raddau helaeth yn eu bywydau bob dydd.

Felly mae canran sylweddol o’r boblogaeth yn colli allan ar eu hoff ffordd o wario o ganlyniad i’r byd cynyddol dechnolegol.

Sgamio

Does dim dwywaith fod pobol hŷn yn dargedau addas ar gyfer sgamiau ariannol, wrth iddyn nhw gael eu portreadu fel unigolion analluog a hawdd eu niweidio.

Mae sgamwyr yn aml yn defnyddio straeon â bachyn personol er mwyn eu gwneud nhw’n fwy credadwy, fel yr eglura Marguerita Calvert.

“Gwnaeth rhywun drio sgamio fi, ond wnaethon nhw ddim llwyddo, yn ffodus,” meddai.

“Roedd y neges yn dweud bod fy mhlentyn mewn trafferth, ac angen arian wrtha i.”

Wrth drafod sut y gallai prosesau technolegol, megis bancio ar-lein, fod yn fwy dealladwy i bobol hŷn, mae ganddi rai syniadau.

“Unrhyw beth ar bapur, rydym yn hoffi hynny,” meddai.

“Llythyron, er enghraifft. Rydym yn gallu ymddiried ynddyn nhw achos dydyn nhw ddim ar sgrîn. Rydym yn gallu eu dal nhw a gwybod eu bod nhw’n rhai go iawn.”

O ran cymorth ar raddfa fwy lleol, mae Abertawe’n cynnig bore technoleg ddwywaith yr wythnos – yn yr amgueddfa neu gapel lleol, er enghraifft, a gall unrhyw un dros 50 oed fynychu i ofyn cwestiynau ynglŷn â’u dyfeisiau.

Un enghraifft yn unig yw hyn o ymdrechion cymunedau i gefnogi’r genhedlaeth hŷn mewn byd nad ydyn nhw, efallai, yn teimlo’n rhan ohono bellach.