Mae meddyg teulu wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw dan “bwysau aruthrol” fel proffesiwn, wrth iddi ddod i’r amlwg fod un ym mhob pum meddygfa yng Nghymru wedi cau dros y degawd diwethaf.
Yn sgil y dirywiad, mae BMA Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i helpu meddygfeydd a meddygon teulu.
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae cyllid gwasanaethau meddygon teulu wedi gostwng, yn ôl Dr Phil White, Dirprwy Gadeirydd Cyngor Cymru o’r BMA.
Erbyn hyn, mae costau rhedeg meddygfeydd “wedi mynd drwy’r to”, meddai, sy’n golygu bod meddygfeydd yn wynebu penderfyniadau anodd, a rhai’n gorfod cau.
Y llynedd, fe wnaeth BMA Cymru lansio ymgyrch ‘Save Our Surgeries’, gan alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu drwy roi cyllid digonol i Feddygfeydd Teulu, buddsoddi yn y gweithlu, a chreu strategaeth ar gyfer y gweithlu.
Yn ogystal â’r pwysau ariannol, fe wnaeth nifer y meddygfeydd teulu yng Nghymru ostwng gan 18%, o 470 i 386, dros y degawd hyd at fis Mehefin 2023, yn ôl ystadegau’r BMA.
Er hynny, bu cynnydd o 93,317 – neu 2.9% – yn nifer y cleifion sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu.
“Rydyn ni’n cael hi’n anodd recriwtio meddygon ifanc, newydd sydd eisiau gweithio llawn amser,” meddai Phil White.
“Felly, mae ambell feddygfa wedi methu.”
‘Llai o feddygon, mwy o gleifion’
Ar hyn o bryd, mae Dr Phil White yn gweithio mewn meddygfa yng Nghaergybi sy’n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
“Mae yna ddau safle dan reolaeth y Bwrdd Iechyd oherwydd bod hi’n mynd yn fwy a mwy anodd i feddygon teulu o ran cyllid oherwydd bod costau’n mynd fyny a fyny,” meddai.
“Fel contractwyr, dydyn ni ddim yn gyflogedig, rydyn ni’n cael tâl am ein gwasanaethau ni.
“Pan mae costau ein gwasanaethau ni’n mynd drwy’r to, a’r cyllid yn aros yr un fath wedyn mae’r pethau’n mynd yn ddrwg ac mae pobol yn cerdded. Pobol hynach yn ymddeol, cymryd eu pensiwn yn fuan a phobol eraill yn dweud, ‘Na, fedrwn ni ddim byw fel hyn’.
“Dydych chi methu gwneud eich bywoliaeth pan mae’ch incwm chi wedi gostwng blwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Mae nifer y meddygon llawn amser wedi gostwng dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, ond mae poblogaeth Cymru wedi cynyddu dros yr un deng mlynedd felly disgwyl i’r rhai sydd ar ôl weithio mwy a mwy o gleifion ac mae pwysau aruthrol arnom ni.”
Ar ben hynny, mae rhestrau aros hir am driniaethau mewn ysbytai’n ychwanegu at y pwysau sydd ar feddygon teulu, meddai.
“Fedrwn ni ddim gwneud fawr ddim amdano fo. Os oes gennych chi glun neu ben-glin angen ei adnewyddu, yr unig beth wneith ddigwydd iddo fo dros y blynyddoedd ydy bod o’n mynd yn waeth.
“Rydyn ni’n cael ein cyhuddo o roi gormod o dabledi lladd poen, does dim syndod pan mae pobol ar restrau aros am ddwy neu dair blynedd ac angen mwy o rywbeth i leddfu’r boen, wedyn ni sy’n cael y bai.”
‘Creu pwysau’
Er bod fformiwla sy’n talu rhan o gostau meddygfeydd teulu, dydy’r fformiwla ddim yn “cadw fyny” efo costau dros y bum mlynedd ddiwethaf, meddai Dr Phil White, ac mae pethau wedi gwaethygu yn y flwyddyn ddiwethaf.
“Felly rydyn ni’n stryglo,” meddai.
“Ni sy’n cyflogi’n staff ni, ni sy’n talu nhw o be’ rydyn ni’n ei gael fel contract gan y Llywodraeth.
“Wrth i’n staff ni gael cyflogau uwch, rydyn ni’n eu cynyddu nhw bob blwyddyn, ac efo’r isafswm cyflog i’r bobol ifanc, mae hwnna’n creu pwysau ar wasanaeth meddygon teulu.”
‘Argyfwng’
Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y BMA yn gywir wrth alw’r sefyllfa’n “argyfwng”.
“Rydyn ni dal i aros am strategaeth gweithlu i wella niferoedd y meddygon teulu yn sgil diffyg gweithredu Plaid Cymru a Llafur,” meddai.
“Byddai’n well ganddyn nhw wario arian mawr ar gynyddu niferoedd y gwleidyddion yn lle.
“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn ariannu Gwasanaeth Iechyd Cymru’n llawn a gweithredu ar gynllun gweithlu sylweddol fyddai’n cynnwys ad-dalu ffioedd dysgu pob gweithiwr iechyd fyddai’n aros a gweithio yng Nghymru ar ôl gorffen eu hastudiaethau.”
‘Gweithio i leihau’r pwysau’
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n gweithio i leihau’r pwysau ar feddygon teulu.
“Fel y mae’r duedd ar draws y Deyrnas Unedig, mae symudiad tuag at bractisau meddygon teulu mwy, gyda chymysgedd ehangach o weithwyr proffesiynol mewn un lleoliad, yn darparu ystod ehangach o wasanaethau,” medd llefarydd ar ran y llywodraeth.
“Mae nifer y meddygon teulu a staff practisau ehangach yng Nghymru wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu dan hyfforddiant newydd bob blwyddyn yn cael ei ragori’n gyson – recriwtiwyd cyfanswm o 183 o feddygon teulu dan hyfforddiant newydd yn 2023.
“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gwaith y mae meddygon teulu, a holl staff y practis, yn ei wneud bob dydd.
“Rydym yn gweithio i leihau’r pwysau ar feddygon teulu, drwy gyflwyno GIG 111 Cymru a chynyddu’r gwasanaethau y mae fferyllwyr cymunedol yn eu darparu.
“Mae diwygiadau i Gontractau Meddygon Teulu wedi helpu i leihau biwrocratiaeth a rhyddhau mwy o amser i feddygon teulu weld cleifion.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda BMA Cymru Wales ar atebion i faterion cynaliadwyedd mewn practis cyffredinol.”