Y cyflwynwyr Beti George a Huw Stephens sy’n mwynhau’r olygfa wrth y llyn ar Ystâd Penarlâg yn Sir y Fflint wrth ffilmio’r gyfres Cysgu o Gwmpas ar S4C.
Roedd Ystâd Penarlâg yn un o’r llefydd y bu’r ddau yn ymweld â nhw wrth deithio ar hyd a lled Cymru i gael blas ar rai o westai a bwytai gorau’r wlad.
Yn y gyfres, bydd y cyflwynydd a’r newyddiadurwraig Beti George a’r cyflwynydd a DJ Huw Stephens hefyd yn ymweld â Palé Hall ger y Bala, Y Grove yn Arberth, Ynyshir ger Machynlleth, Parador 44 yng Nghaerdydd, a’r Albion yn Aberteifi.
Yn ystod eu hymweliad ag Ystâd Penarlâg roedd Huw Stephens wedi canu ‘Llyn Llawenydd’. Mae’r gân ar y rhestr Spotify sydd wedi’i chreu’n arbennig i gyd-fynd â’r rhaglen: Spotify
- Bydd y gyfres chwe phennod o Cysgu o Gwmpas yn dechrau nos Lun, Ebrill 8 am 8yh ar S4C.
- Mae Beti George hefyd yn rhannu ei hatgofion bwyd yn y gyfres Ar Blât ar golwg360 yr wythnos hon.