Daeth rhagor o lwyddiant i enillydd Cân i Gymru neithiwr (nos Iau, Ebrill 4), wrth i ‘Ti’ gan Sara Davies gael ei henwi’n Gân Ryngwladol Orau’r Ŵyl Ban Geltaidd.

Cafodd ei henwi’n enillydd yn dilyn perfformiad o’i chân gerbron panel o feirniaid yn Ceatharlach (Carlow).

Bob blwyddyn, caiff cân fuddugol Cân i Gymru ei dewis i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn erbyn y gwledydd Celtaidd eraill, gyda’r enillydd yn ennill cwpan a gwobr ariannol o 1,500 Ewro.

“Roedd Taid efo fi,” medd enillydd Cân i Gymru

Alun Rhys Chivers

Sara Davies, enillydd Cân i Gymru, fu’n siarad â golwg360 am y berthynas arbennig rhyngddi hi, a’i Nain a’i Thaid

‘Ti’ gan Sara Davies yw enillydd Cân i Gymru 2024

Mae’r gyfansoddwraig wedi ennill £5,000 a thlws Cân i Gymru