Yn dilyn proses recriwtio agored, Dr Catrin Jones sydd wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd yr Eisteddfod, y ddynes gyntaf i ymgymryd â’r swydd.
Rôl wirfoddol yw un yr Ysgrifennydd, sy’n gyfrifol am gynnig cyngor a chefnogaeth i Ymddiriedolwyr, Cyngor a Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â sicrhau bod elusen yr Eisteddfod yn cael ei llywodraethu’n effeithiol.
Mae hi’n olynu’r diweddar Dr Llŷr Roberts a Geraint R. Jones.
Mae ganddi brofiad eang mewn gweinyddiaeth, rheolaeth a llywodraethiant yn y byd academaidd, a bu’n gweithio ym mhrifysgolion Llanbed, Aberystwyth a Bangor.
Bu’n Gofrestrydd ac yn Ysgrifennydd ym Mhrifysgol Aberystwyth am dros ddeg mlynedd ar hugain, ac mae ganddi brofiad o waith gweinyddol a llywodraethol i’r lefel uchaf.
Yno roedd hi’n gyfrifol am drefnu pwyllgorau’r brifysgol, gan sicrhau rheolaeth a llywodraethiant effeithiol, a bu’n gweithredu hefyd fel ysgrifennydd i’r Cyngor a’r Senedd.
Bellach, a hithau wedi ymddeol ac yn byw yng Nghricieth gyda’i gŵr Merfyn Jones, mae’n Glerc ac yn Swyddog Ariannol Cyfrifol i Gyngor Tref Cricieth ers saith mlynedd, ac yn Swyddog Polisi Un Llais Cymru, sef y corff cynrychioladol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
Llywodraethu da
Dywed Dr Catrin Jones mai ei gobeithion ar gyfer y swydd yw “gweithio fel rhan o dîm i sicrhau llywodraethiant effeithiol, gyda’r ffocws ar gyflawni strategaeth yr Eisteddfod”, a bod yna “drefniadau cadarn yn eu lle er mwyn gwneud yn siŵr bod busnes ac amcanion yr Eisteddfod yn cael eu cyflawni o ddydd i ddydd”.
Ychwanega mai nodwedd allweddol elusennau sy’n gweithredu’n effeithiol yw llywodraethu da.
“Rhaid i fwrdd effeithiol sicrhau cyflawniad llwyddiannus diben yr elusen, gwasanaethu ei buddiolwyr, dangos arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau da, bod â gafael dda ar risg, a gweithredu’n onest mewn hinsawdd sy’n agored ac yn atebol,” meddai wrth golwg360.
“Mae egwyddorion llywodraethiant yn gyfarwydd iawn i mi, ac mae’r egwyddorion yma yn drosglwyddadwy i swydd Ysgrifennydd yr Eisteddfod,” meddai.
“Mae’r Eisteddfod yn sefydliad allweddol bwysig i fywyd y genedl ac i ffyniant yr iaith Gymraeg, ac mae angen sicrhau bod yr arlwy sy’n cael ei gynnig yn parhau i ddenu cystadleuwyr a mynychwyr, o’r hen i’r ifanc.
“Mae’n bwysig parchu traddodiad, ond hefyd bod yn agored i newid er mwyn sicrhau sefydliad sy’n ateb gofynion y Gymru gyfoes.
“Mae yna waddol i Eisteddfod deithiol yn y gymuned, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau.”
‘Caffaeliad mawr dros y blynyddoedd nesaf’
Dywed Ashok Ahir, Cadeirydd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod a Llywydd y Llys, eu bod yn “falch iawn o groesawu” eu Hysgrifennydd newydd i’r tîm.
“Bydd hi’n sicr yn gaffaeliad mawr dros y blynyddoedd nesaf,” meddai am Dr Catrin Jones.
“Mae llawer o waith wedi’i wneud yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n siŵr y bydd Catrin yn bwrw ati gydag arddeliad er mwyn sicrhau llywodraethiant effeithiol y corff.”