Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi beirniadu “record warthus” Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym maes addysg Gymraeg.

Fe fu galwadau ar i’r Cyngor gryfhau cyfleoedd i blant yn y sir gael mynediad i addysg Gymraeg.

Wrth siarad yn ystod sgwrs banel, dywedodd Heledd Fychan, sy’n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, fod “record warthus” gan Gyngor Rhondda Cynon Taf pan ddaw i addysg Gymraeg mewn ysgolion.

“Maen nhw’n sôn am gynyddu capasiti Saesneg efo newid yn Ysgol Dolau,” meddai.

“Dydi hon ddim yn sir sydd yn cefnogi twf addysg Gymraeg, ac mae rhaid i ni fod yn onest am hynny.”

Y sefyllfa yn y sir

Ar hyn o bryd, tua 20% o blant y sir yn unig sy’n derbyn addysg Gymraeg.

Dydy’r Cyngor ddim wedi agor ysgol Gymraeg o’r newydd ers i’r awdurdod gael ei sefydlu yn 1996, sy’n amlygu diffyg uchelgais difrifol, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Dim ond 19 ysgol Gymraeg sydd yn yr ardal, o gymharu â 90 ysgol Saesneg.

Mae cynnal yr Eisteddfod ym Mhontypridd wedi tynnu sylw tuag at record y Cyngor, sy’n cael ei arwain gan y Blaid Lafur a’r Cynghorydd Andrew Morgan.

Mae’r Cyngor hefyd wedi cael eu beirniadu am godi tâl ar feithrinfeydd a sefydliadau Cymraeg megis Menter Iaith i logi adeiladau’r Cyngor.

“Dydi hyn ddim yn gwneud synnwyr o ran y Gymraeg,” medd Heledd Fychan.

Ysgol Pont Siôn Norton

Mae ymgyrchwyr a rhieni yn Rhondda Cynon Taf eisoes wedi ennill un achos sydd wedi cael cryn sylw yn ddiweddar.

Roedd y Cyngor wedi bwriadu cau Ysgol Pont Siôn Norton, ond cawson nhw eu hatal rhag gwneud hynny yn dilyn achos llys.

Yn hytrach, mae’r ysgol bellach am gael ei symud allan o ardal gogledd Pontypridd.

Wrth siarad â golwg360, dywed Lowri Mared, un o’r rhieni fu’n ymgyrchu yn erbyn cau’r ysgol, nad yw’r Cyngor “wedi dysgu” o wersi’r gorffennol.

“Doedd yna ddim ymgynghoriad efo’r gymuned o gwbl cyn cyhoeddi’r penderfyniad yna,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn deall, a dydyn nhw ddim yn ceisio deall.

“Mae’n siom fod y Cyngor ddim yn gweld taw cam yn ôl i’r Gymraeg oedd y penderfyniad i ail-leoli Ysgol Pont Siôn Norton y tu allan i gymuned gogledd Pontypridd.

“Wrth wneud y penderfyniad yma, mae’r Cyngor wedi diystyru’r sgil-effaith ar yr iaith yn gyfan gwbl.

“Bydd rhai plant nawr yn gorfod pasio saith ysgol Saesneg ar y ffordd i’w hysgol Gymraeg agosaf.

“Bydd ardaloedd Cilfynydd, Glyncoch ac Ynysybwl yn colli’r iaith, gan fod y Cyngor wedi gwneud addysg Gymraeg yn amhosib i lawer.”

‘Sioe’

Wrth drafod cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf, dywed Lowri Mared ei bod hi’n teimlo’i bod yn “sioe”.

“Wnes i siarad cyn yr Eisteddfod yn dweud bod yna beryg i’r Steddfod fod yn arwynebol – ymarfer tic-bocs i’r iaith.

“Does yna ddim byd ganddyn nhw [y Cyngor] ynglŷn ag addysg, a dydyn nhw ddim wir yn weledol yma chwaith.”

Wrth siarad â golwg360, dywedodd swyddog o Gyngor Rhondda Cynon Taf fod cynghorwyr wedi bod ar y Maes ar ddydd Mawrth (Awst 6).

“Creu argraff” o weithredu dros y Gymraeg

Wrth siarad â golwg360, dywed Toni Schiavone o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith fod y Cyngor “yn creu argraff eu bod nhw’n gweithredu’n gadarn dros y Gymraeg”.

“Y gwir yw, maen nhw’n aros yn yr unfan,” meddai.

“Does yna ddim cynllunio strategol ar gyfer twf.

“I gyd maen nhw eisiau’i wneud ydi’n cadw ni’n dawel a rhoi briwsion, tra bod 85% o blant yn derbyn addysg Saesneg.”

Ychwanega fod hyn yn “gwbl annerbyniol”.

Wrth drafod y cynnydd a fu yn y defnydd o’r Gymraeg yn y sir, dywed fod y Cyngor yn ceisio rhoi “sbin” ar hyn, ac nad yw’r cynnydd “ddim byd i wneud efo’u polisïau nhw”, ond hytrach yn ymwneud â phobol Gymraeg yn symud i mewn i’r ardal.

Bil Addysg Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil Addysg Gymraeg i ddatgan bod rhaid i gynghorau sicrhau mynediad gwell at addysg Gymraeg.

Ar y mater yma, dywed Heledd Fychan fod y Bil yn “angenrheidiol” er mwyn gorchymyn cynghorau fel Rhondda Cynon Taf i wneud mwy, ond fod Plaid Cymru “am gynnig gwelliannau” i’r ddeddf.

“Dydi cynghorau fel Rhondda Cynon Taf ddim yn mynd i newid heblaw bod rhaid iddyn nhw wneud,” meddai.

“Felly, dyna pam fyddwn ni fel Plaid Cymru yn rhoi gwelliannau i’r Bil i drio’i gryfhau o.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf.