Roedd y Gymraeg yn “rhywbeth weddol artiffisial” wrth iddi gael ei magu mewn ardal ddi-Gymraeg, meddai Prif Weinidog Cymru wrth dderbyn adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Mae angen i blant sy’n derbyn addysg Gymraeg ond sy’n dod o aelwydydd di-Gymraeg glywed y Gymraeg fel iaith fyw, yn ôl Eluned Morgan.
Am y rheswm hynny, mae argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, oedd wedi lansio’u hadroddiad ym Mhontypridd heddiw (dydd Iau, Awst 8), yn “hollbwysig”, meddai.
Mae dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ yn ganolog i’r cynigion i warchod a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.
“Dw i’n edrych ymlaen i ddarllen; mae lot o bethau ynddo fe, lot o bethau rydych chi’n gofyn wrthym ni wneud!” meddai Eluned Morgan gan chwerthin.
“Gewn ni good look arno, a dod yn ôl atoch chi ar y syniadau sydd gyda chi.”
Yn ôl y Prif Weinidog, mae'n “anhygoel” faint o dwf sydd wedi bod yn y defnydd o’r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf
Daw hyn mewn ymateb i drafodaeth ynghylch mynediad i addysg Gymraeg yn y sir, a galwadau Cymdeithas yr Iaith a Heledd Fychan am fwy o weithredu i hybu addysg Gymraeg pic.twitter.com/UMRgUtbkVh
— Golwg360 (@Golwg360) August 9, 2024
‘Hollbwysig’
Mae’r Comisiwn yn gwneud 57 o argymhellion i gyd, a hynny mewn sawl maes polisi allweddol.
“Ga’i jyst dweud bod y ffocws yn yr adroddiad yma wedi bod yn yr ardaloedd yna lle mae dwysedd uchel i gael o ran faint o bobol sy’n siarad Cymraeg,” meddai Eluned Morgan wedyn.
“Fel rhywun sydd wedi cael fy nghodi a’m magu mewn ardal gwbl ddi-Gymraeg, mae hwn yn rhywbeth pwysig iawn i fi, ac mae e wastad wedi bod yn rhywbeth pwysig i fi, achos roedd Cymraeg i fi yn rhywbeth weddol artiffisial, os dw i’n onest.
“Dim ond yn yr ysgol oeddech chi’n clywed e, a pan oeddwn i’n mynd gartref i Dyddewi, ond roedd e’n iaith eithaf artiffisial.
“Ond mae gallu mynd i ardal lle mae’n rhywbeth naturiol i’w glywed, os ydych chi’n dod o’r cyd-destun yna, yn hollbwysig.
“Dw i’n cofio, roedd fy mrawd wedi cael yr un profiad â fi, a phan oedd e tua ugain aeth e i’r Felinheli a gafodd e sioc ei fywyd e i ddeall bod Cymraeg yn iaith fyw.
“Mae eisiau i chi gofio bod yna gymunedau yn enwedig lot, lot o blant nawr sy’n mynd i ysgolion Cymraeg o gartrefi di-Gymraeg, ac mae angen iddyn nhw glywed Cymraeg fel iaith fyw.
“A dyna pam fy mod i’n meddwl bod cadw’r dwysedd yna’n uchel yn bwysig.”
Dywed hefyd nad oes modd i’r argymhellion gael eu gweithredu mewn un ardal o bolisi llywodraeth, ond fod rhaid iddo “dorri ar draws pob ardal”.
Ail gam
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ail gam y Comisiwn, sef edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yng nghymunedau eraill Cymru a thu hwnt.
“Rhaid i ni gofio bod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac ym mhob rhan o Gymru, a dyna pam mae hwn yn un rhan o’r gwaith.
“Bydd rhan arall o’r gwaith yn dod pan fyddan ni’n edrych tu hwnt i’r ardaloedd hynna.”
Mae’r Comisiwn yn argymell dynodi ardaloedd ieithyddol arwyddocaol dwysedd uwch mewn dwy ffordd.
Y ffordd gyntaf fyddai drwy osod trothwy statudol yn seiliedig ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021, a’r ail fyddai rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol benderfynu bod yr ardal yn un ieithyddol arwyddocaol.
Er mai mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu ar y trothwy, mae rhagdybiaeth am y tro y dylid gosod hynny ar 40% o siaradwyr Cymraeg mewn ardal.
Yn ystod y lansiad, dywedodd Dr Simon Brooks, cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, fod yna ddadl dros amrywio polisïau mewn ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg mewn rhai meysydd.
Fodd bynnag, bydd materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg – megis enwau lleoedd, statws yr iaith, hawliau siaradwyr a’r hawl i gael addysg Gymraeg – yn parhau’n bolisïau cenedlaethol.
“Mae pethau fel hyn yn bethau cenedlaethol, fyddan nhw’n aros yn genedlaethol.
“Dydyn ni ddim angen amrywiadau lleol yn y meysydd hyn; iaith genedlaethol yw’r Gymraeg,” meddai.
“Ond mae yna ddadl dros amrywio polisïau mewn meysydd sydd yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg er mwyn adlewyrchu’r amodau neilltuol sy’n bodoli yno, fel ein bod ni’n gallu amrywio a thargedu polisïau er mwyn mynd i’r afael â’r gwir broblemau a gobeithion sy’n codi mewn cymunedau, mewn materion fel tai, datblygiad economaidd, datblygiad cymunedol.”