Mae angen i bobol gael y cyfle i fyw yn eu hardaloedd lleol, yn ôl Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.
Bu’n siarad â golwg360 ar ôl i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gael ei gyhoeddi ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd.
Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion i gryfhau cymunedau Cymraeg.
Dywedodd Eluned Morgan nad oedd hi wedi cael amser i ddarllen yr argymhellion i gyd erbyn hynny, ond ei bod hi’n “awyddus” i’w ddarllen.
“Mae angen i bobol leol gael y cyfle i fyw yn lleol, ac yn amlwg mae lot ohonyn nhw yn y llefydd yma yn ffeindio fe’n anodd gallu aros,” meddai.
“Mae e’n rhywbeth sydd yn sensitif ac mae e’n rhywbeth mae rhaid i ni drwsio.
“Rydym wedi gwneud lot yn barod, ond mae yna oblygiadau i bobol sydd yn byw yn y cymunedau yna.
“Felly, mae rhaid i ni wneud e mewn ffordd sy’n sensitif, ac sy’n gweithio i bobol yn yr ardal.”
Mae galwadau wedi bod am Ddeddf Eiddo gan Gymdeithas yr Iaith a Nid yw Cymru ar Werth, ond dydi Llywodraeth Cymru ddim wedi ymrwymo i’r fath ddeddfwriaeth.
Addysg Gymraeg
Wrth ymateb i’r drafodaeth ar y Maes ynghylch mynediad i addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf, a galwadau’r gymdeithas a Heledd Fychan am fwy o weithredu i hybu addysg Gymraeg, dywed y Prif Weinidog ei bod yn “anhygoel” faint o dwf sydd wedi bod yn y defnydd o’r Gymraeg.
“Os ydych yn edrych ar y ffaith blynyddoedd yn ôl [taw] ond un ysgol Gymraeg oedd yna yn Ne Cymru i gyd, erbyn heddiw mae yna lot o ysgolion Cymraeg,” meddai.
“Mae tua 28% o blant o’r ardal yma yn mynd i ysgolion Cymraeg, sydd yn lot.”
Ychwanega nad yw hi’n credu ei bod yn “ymwneud yn gyfan gwbl ag ariannu”.
“Beth ydan ni’n sôn amdan yw mynd a chysylltu ag ysgolion ar daith, lle mae pethau yn newid yn raddol, lle mae rhai ysgolion yn ddwyieithog sydd yn troi yn ysgolion Cymraeg.
“Ac mae hyn yn lle agor mwy o ysgolion Saesneg cyn adeiladu ysgolion Cymraeg.
“Mae e i gyd i wneud efo balwns; dydi o ddim o reidrwydd i wneud efo arian.
“Ac rydyn ni wedi ariannu nifer o ysgolion newydd yng Nghymru o gymharu efo Lloegr.”
Mae’r Bil Addysg Gymraeg yn mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd, ond fe fu galwadau gan Blaid Cymru i gryfhau’r ddeddfwriaeth.
Dywed Eluned Morgan ei bod hi’n “barod i gydweithredu gyda phleidiau eraill” ar y ddeddfwriaeth fel ag y mae hi ar hyn o bryd.