Dydy hi “ddim yn llesol i ddemocratiaeth Cymru” fod y Blaid Lafur mewn grym ers cyhyd, yn ôl Rhun ap Iorwerth.
Bydd arweinydd Plaid Cymru’n traddodi darlith ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd heddiw (dydd Gwener, Awst 9), gan amlinellu ei “weledigaeth bositif dros newid”.
Wrth edrych tuag at Etholiad y Senedd yn 2026, mae disgwyl iddo ddweud bod “pleidiau gwleidyddol angen cyfle i adnewyddu syniadau, ac mae’r ffresni yn y berthynas yna i fod i ddeillio o lanw a thrai gwahanol bleidiau mewn grym mewn unrhyw system wleidyddol normal”.
Mae’r Blaid Lafur wedi bod mewn grym ers dechrau datganoli a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol – y Senedd yn ddiweddarach – yn 1999.
Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal ym Mhabell y Cymdeithasau.
‘Newid gêr’
“Mae Cymru angen gweld newid gêr,” yn ôl Rhun ap Iorwerth, sy’n dweud bod angen “gweld llywodraeth sydd wir yn deffro i’r brys sydd ei angen i fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu ein cymunedau, a sy’n cofio mai braint – nid dwyfol hawl – ydi gwasanaethu eich gwlad”.
“Dydi dominyddiaeth un blaid ddim yn llesol i ddemocratiaeth Cymru.
“Un blaid – nid yn unig yn arwain Llywodraeth ar hyd y daith, ond yn bwrw gwreiddiau’n ddwfn ar hyd a lled cymdeithas sifig fel bod inc y getrisen Gymreig yn goch, o drydydd llawr Parc Cathays i lawer o goridorau’r trydydd sector.
“Ar un llaw mae adeiladu maenoriaeth yn ganlyniad i lwyddiant etholiadol – mae’n dod i’ch rhan hyd yn oed os nad dyna ydi’r cymhelliad.
“Ond mae problem yn codi pan mae gwarchod grym a pharhad y sefydliad yn tra arglwyddiaethu dros yr angen parhaus i ail ddiffinio pwrpas ac adnewyddu syniadau yn gyson.
“Mae pleidiau gwleidyddol angen cyfle i adnewyddu syniadau, ac mae’r ffresni yn y berthynas yna i fod i ddeillio o lanw a thrai gwahanol bleidiau mewn grym mewn unrhyw system wleidyddol normal.
‘Rhy gyfforddus efo’r status quo’
Bydd Rhun ap Iorwerth yn rhybuddio na all pethau aros fel ag y maen nhw.
“Un o symptomau chwarter canrif o rym ydi bod yn gyfforddus efo’r status quo, ac mae yna ymdeimlad cynyddol yng Nghymru fod Llafur yn cymryd pobol yn ganiataol. P’run a ydi o’n wir ai peidio, dyna’r argraff.
“Ond mae Cymru angen gweld newid gêr – gweld llywodraeth sydd wir yn deffro i’r brys sydd ei angen i fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu ein cymunedau, a sy’n cofio mai braint – nid dwyfol hawl – ydi gwasanaethu eich gwlad.
“Mae yna gymaint o ffyrdd lle y gall meddwl yn fwy blaengar, beiddgar ac uchelgeisiol arwain at newid er gwell i’n cymunedau, ein cenedl a’n cyfansoddiad.
“Deddf Hawl i Gartref i ymateb i’r argyfwng lle mae pobol yn methu â fforddio bwrw gwreiddiau yn eu milltir sgwâr.
“System gynllunio sy’n gwasanaethu anghenion y gymuned leol.
“Camau di-droi’n ôl i atal tlodi.
“Polisi ynni sy’n rhoi cymunedau wrth galon penderfyniadau.
“Camau breision i gefnogi amaeth a sicrhau y gallwn ddod yn fwy hunangynhaliol o ran bwyd.
“Rydan ni angen strategaeth fwyd go iawn!
“Polisi iaith sy’n fwy na dim ond dweud ‘Miliwn o Siaradwyr’, ond sy’n gweithredu er mwyn creu miliwn o siaradwyr.”
‘Dim teimlad o atgyfodiad y radicaliaeth Gymreig’
Bydd Rhun ap Iorwerth hefyd yn trafod y Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan.
“Oes, mae gennym ni Brif Weinidog newydd, ond does dim teimlad o atgyfodiad y radicaliaeth Gymreig.
“Ydi, mae’r enwau’n cael eu hailgylchu o un adran i’r llall yn y Llywodraeth ond prin ydi’r dystiolaeth y bydd newid pwyslais neu awydd i ysgwyd y drefn.
“Mi all Cymru ddewis sawl llwybr gwahanol rwan.
“Mi all barhau fel ag y mae hi.
“Briwsion o fwrdd San Steffan i gyfrannu at rysáit di-fflach sy’n gadael blas drwg.
“Mi all ddewis peidio cael briwsion hyd yn oed, a gadael i ddadrithiad dyfu nes agor y drws i garfannau sydd am danseilio hynny o lais sydd ganddo ni.
“Neu gall pobol Cymru gydio yn y posibiliadau a ddaw o newid er gwell.
“O wybod y bydd ganddyn nhw Lywodraeth wnaiff frwydro’n ffres a digyfaddawd am fargen deg a sydd â’r uchelgais o adael i’n gwlad fach ni ragori fel deorfa o syniadau newydd ac fel pwerdy democrataidd.”