Mae torf wedi ymgynnull tu allan i Lys y Goron Abertawe i alw am roi’r gorau i garcharu pobol sy’n dweud y gwir”.
Fel sydd wedi digwydd mewn sawl dinas arall, maen nhw’n dal arwyddion i gefnogi protestwyr heddychlon sydd wedi cael y dedfrydau mwyaf llym ers blynyddoedd.
Ar Orffennaf 18, fe wnaeth y barnwr Christopher Hehir ddedfrydu pump o brotestwyr am darfu ar yr M25 wrth iddyn nhw roi pwysau ar Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig a’r Prif Weinidog Rishi Sunak i beidio â chyflwyno trwyddedau olew a nwy newydd, sy’n niweidio’r hinsawdd.
Cafodd Roger Hallam, dyn 57 oed o Gymru, ei garcharu am bum mlynedd, tra bod Daniel Shaw, 38 oed o Northampton, Lucia Whittaker De Abreu, 34 oed o Derby, Louise Lancaster, 58 oed o Gaergrawnt, a Cressida Gethin, 22 oed o Henffordd wedi’u carcharu am bedair blynedd.
Cafwyd y pump yn euog o gynllwynio i achosi niwsans i’r cyhoedd.
Penderfynodd y barnwr nad oedd modd cyflwyno tystiolaeth ynghylch yr argyfwng hinsawdd fel amddiffyniad, gan ei bod yn seiliedig ar farn neu gredoau.
Hanner ffordd trwy’r achos llys, cafodd unarddeg o ymgyrchwyr eu harestio am ddal arwyddion tu allan i’r llys yn dweud bod y “rheithgor yn haeddu clywed y gwir i gyd”.
Ymatebodd yr ymgyrchwyr drwy gynnal protest ag 85 o bobol yr wythnos ganlynol, a chafodd neb ei arestio.
Fis Mehefin, cafodd Amy Pritchard ei dedfrydu i ddeg mis o garchar am dorri ffenestri JP Morgan, sy’n ariannwr sylweddol o danwyddau ffosil.
Dedfrydau llym
Mae’r dedfrydau sydd wedi’u rhoi i’r protestwyr wedi achosi cryn ddicter ymhlith cyfreithwyr, enwogion a’r Cenhedloedd Unedig.
Mae 1,200 o bobol wedi ysgrifennu at y Twrnai Cyffredinol i gwyno am “un o’r anghyfiawnderau mwyaf yn hanes modern llysoedd Prydain”, ac i alw am gyfarfod brys â Richard Hermer i drafod y dedfrydau a’r ymdrechion honedig i dawelu’r rhai sy’n dweud y gwir.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, dydy’r dedfrydau “ddim yn dderbyniol mewn democratiaeth”, ac mae’n “anodd deall” sut y gall un barnwr benderfynu ar ei ben ei hun pa dystiolaeth sy’n dderbyniol i’w chlywed.
‘Gwallgofrwydd’
“Mae carchardai ar dorri, ac mae’r llywodraeth newydd yn gweithredu er mwyn mynd i’r afael â hyn ar frys,” meddai Dr Susan Lyle, cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
“Sut all y dedfrydau hyn gael eu hystyried yn unrhyw beth ond gwallgofrwydd?
“Mae’r protestwyr hyn wedi ymrwymo i Weithredu Uniongyrchol Di-drais.
“Mae’r dedfrydau, sy’n amrywio o bedair i bum mlynedd, yn uwch na’r rheiny sy’n cael eu rhoi i nifer sy’n cyflawni ymosodiadau rhyw difrifol.
“Yn y cyfamser, mae protestiadau treisgar dros y dyddiau diwethaf yn achosi anhrefn mewn dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig.
“Dydy democratiaeth sy’n cloi protestwyr heddychlon i fyny ddim yn un iach.
“Gadewch i ni ganolbwyntio ar y troseddwyr go iawn, nid y rheiny sy’n gweithredu’n anhunanol er lles cenedlaethau’r dyfodol.”