Fe ddaeth i’r amlwg fod y Fonesig Elan Closs Stephens yn gwybod pam fod Huw Edwards wedi cael ei arestio pan wnaeth hi ei ganmol ar BBC Radio Cymru.
Hi oedd cadeirydd y BBC pan gafodd y darlledwr ei arestio fis Tachwedd y llynedd, a chafodd hi a nifer o benaethiaid y Gorfforaeth eu briffio ar y sefyllfa.
Mae e bellach wedi cyfaddef bod â delweddau Categori A, B, C ar WhatsApp ar ei ffôn, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.
Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd y Fonesig Elan Closs Stephens ei bod hi’n gwybod fod Huw Edwards wedi cael ei arestio pan gyfeiriodd hi ato fel “Huw druan” ar y rhaglen Beti a’i Phobol.
Cafodd y rhaglen ei recordio ddechrau mis Gorffennaf eleni, ond mae’n dweud nad oedd hi’n ymwybodol o’r manylion ddaeth i’r amlwg yn ystod gwrandawiad llys pan wynebodd Huw Edwards y cyhuddiadau.
Gwrthododd hi ddweud a oedd hi’n gwybod union natur ymchwiliad yr heddlu, ond mae’r BBC bellach wedi cadarnhau ei bod hi wedi cael ei briffio a’u bod nhw wedi cael gwybod am natur y delweddau pan gafodd Huw Edwards ei arestio.
Ond does dim awgrym fod y Fonesig Elan Closs Stephens yn gwybod ei fod e wedi cael ei gyhuddo cyn y cyfweliad ar y radio, pan ddywedodd hi “Huw druan” wrth siarad am honiadau am ei fywyd preifat gafodd eu gwneud mewn erthygl yn The Sun.
Dywedodd hi yn ystod y cyfweliad ei fod e wedi gwneud “cyfraniad enfawr” yn ystod ei yrfa.