Mae’n “anodd” gosod targedau iechyd, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Bu Eluned Morgan siarad â golwg360 ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, sy’n beirniadu record Llywodraeth Lafur Cymru.

Dywed fod “y galw yn cynyddu drwy’r amser”.

“Os ydych chi’n gosod targed ac mae galw’n cynyddu lot yn fwy, mae’n anodd,” meddai, gan ychwanegu bod nifer o resymau pam fod y galw’n cynyddu.

Yn eu plith mae poblogaeth sy’n heneiddio, meddai.

Mae adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyfeirio at nifer o heriau mawr mae’r Gwasanaeth Iechyd yn eu hwynebu, gan gynnwys colli capasiti o ganlyniad i oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn adrannau brys.

Dywed yr adroddiad fod y targed ymateb coch, sef bod 65% o alwadau lle mae bywyd yn y fantol yn cael ymateb brys o fewn wyth munud, wedi’i fwrw’n gyson ers mis Gorffennaf 2020.

Galwadau’r pwyllgor

Mae’r Pwyllgor yn galw am y canlynol:

  • y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth roi Chwe Nod Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng ar waith, yn benodol mynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys
  • sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a Chyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru fod y targed ymateb coch yn parhau’n addas i’r diben
  • diweddariad 12 mis ar gynnydd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn erbyn ei rhaglen o welliannau ar gyfer diwylliant ei gweithleoedd.

Angen “atal” pobol rhag mynd i’r ysbyty os nad oes argyfwng

Yn ôl y Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru “wedi gwneud lot i helpu’r sefyllfa”.

“Rydym wedi gwneud lot i helpu’r sefyllfa, ni wedi cael 111, ni wedi cael 111 ‘Pwyswch 2’, ni wedi cael triniaeth argyfwng yr un diwrnod, mae canolfannau triniaeth frys gyda ni, mae gan fferyllfeydd gyda ni yn y gymuned,” meddai.

Ychwanega fod mwy o gyfrifoldeb ar y cyhoedd i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn cyn mynd i’r ysbyty.

“Mae yna lot o bethau gyda ni i geisio atal pobol rhag mynd i’r ysbytai.

“Mae’n bwysig iddyn nhw ddefnyddio’r rheiny yn hytrach na wastad mynd i’r ysbytai.”

‘Y Gymraeg yn rhywbeth weddol artiffisial mewn ardal ddi-Gymraeg’

Daeth sylwadau’r Prif Weinidog Eluned Morgan wrth lansio adroddiad “hollbwysig” y Comisiwn Cymunedau Cymraeg