Bydd gwasanaeth Mwslimaidd yn cael ei gynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf erioed yr wythnos hon.

Now in a Minute, grŵp sy’n gweithio i wella mynediad i Fwslimiaid yng Nghymru, sydd wedi trefnu’r gwasanaeth fydd yn cael ei gynnal am 1 o’r gloch ddydd Gwener (Awst 9).

Maen nhw wedi bod yn cydweithio â Chyngor Mwslimiaid Cymru a Chanolfan Islam Prifysgol Caerdydd er mwyn creu gofod mosg i weddïo ar y Maes ym Mhontypridd.

Dywedodd Bea Young:

“Man i weddïo oedd yr amcan gwreiddiol ond yn y misoedd diwethaf rydym wedi datblygu’r gofod fel man i ddathlu a thrafod hanes a thraddodiadau a’r ffaith bod Mwslemiaid yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg a bod ni’n cael ein gweld,” meddai Bea Young, Mwslim sy’n hanu o Lan Ffestiniog ger Blaenau Ffestiniog.

“Rydym wedi bod yma am gannoedd o flynyddoedd ac yn rhan o’r gymuned.

“Un o’r digwyddiadau rydyn ni’n edrych ymlaen ato yw’r gwasanaeth.

“Rydym yn mynd i’r mosg fel arfer ar ddydd Gwener i gael gwasanaeth a gweddïo mewn cynulleidfa, ac mae Imam yn rhoi pregeth.

“Yr wythnos yma, bydd Imam yn dod i’r Maes, ac am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod yn gwneud y gwasanaeth bron yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg.

“Bydd criw o Fwslimiaid o’r ardal yn dod fewn i weddïo; rydan i’n gobeithio gwneud yr adhan, yr alwad i weddïo, yn uchel iawn ar y Maes i ddangos bod y gwasanaeth yn dechrau.

“Bydd croeso i bawb i ddod am sgwrs a chai, sy’n fath o de.”

Croeso cynnes

Dywed Bea Young eu bod nhw wedi cael croeso cynnes ar y Maes, a hynny yn dilyn terfysgoedd a phrotestiadau gwrth-Fwslimaidd ar strydoedd trefi a dinasoedd Lloegr yn ddiweddar.

“Mae’n wych i deimlo bo ni’n rhan o’r Eisteddfod, a rhan o’r gymuned siaradwyr Cymraeg,” meddai.

Dywed Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, eu bod nhw’n awyddus i “gynrychioli pob elfen o’r gymuned, a bod yn Eisteddfod sy’n gwbl gynhwysol”, a’i fod yn fwriad i barhau i drafod sut mae modd datblygu’r berthynas ymhellach.