Mae 40 mlynedd ers Streic y Glowyr, digwyddiad wnaeth “newid wyneb y Cymoedd”, yn ôl newyddiadurwr fu’n gohebu ar yr anghydfod.
Daeth sawl mudiad ynghyd i gefnogi ymgais glowyr ledled gwledydd Prydain i geisio atal y Bwrdd Glo Cenedlaethol a llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher rhag cau pyllau glo rhwng 1984 a 1985.
Un o’r mudiadau hynny oedd Cymdeithas yr Iaith, a bu’r newyddiadurwr Meic Birtwistle, Angharad Tomos, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar y pryd, a Ben Gregory, sy’n dod o deulu o lowyr o Dredegar, yn sgwrsio am y streic yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher (Awst 7).
Dechreuodd y streic ym mis Mawrth 1984, pan gyhoeddodd y llywodraeth y byddai ugain o lofeydd yn cau, gan ddiswyddo 20,000 o lowyr.
Roedd y gefnogaeth i’r streic yn ne Cymru’n gryf, gyda thros 99% o’r gweithlu yn ei chefnogi ar y cychwyn.
‘Teuluoedd yn llwgu’
Yn 1984-5, roedd Meic Birtwistle yn newyddiadurwr gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar ar S4C, ac roedd e’n ôl ac ymlaen yn yr ardaloedd glofaol yn gohebu a chyfweld â glowyr a theuluoedd, a thrwy ei waith â’r undebau llafur.
“Roeddet ti’n gallu gweld unwaith roeddet ti’n mynd mewn i’r ardaloedd glofaol bod yna wahaniaeth,” meddai wrth drafod ei atgofion o’r cyfnod gyda golwg360.
“Ym Mhontypridd, dw i’n cofio mynd i dafarn Llanover Arms, lle’r oedden nhw’n trefnu’r casgliadau bwyd i’r bobol yn y cymunedau glofaol fan hyn, a’u gweld nhw’n trio delio gyda beth oedd pobol wedi’u rhoi fel rhyw fath o gefnogaeth.
“Dw i’n eu cofio nhw’n trafod eu bod nhw wedi cael sacheidiau o foron.
“Dw i’n cofio yng Nghwm Cynon, mynd ag ychydig o arian ryw dro, ar ran yr undeb, ac roedd y menywod oedd yn rhedeg hwnna’n dweud mai’r unig beth oedden ganddyn nhw oedd sosejis a ffa pob ar gyfer yr wythnos.
“Roedd yna deuluoedd yn llwgu, roedd y biliau’n peilio lan, doedden nhw ddim yn gallu talu am nwy, talu am drydan, am y ffôn. Roedden nhw’n cael eu torri i ffwrdd.
“Roedden nhw wedi mynd ati i gynllunio ymlaen llaw; roedden nhw wedi newid y rheolau ynglŷn â phicedu, newid y rheolau budd-dal ar gyfer y rhai oedd ar streic; roedden nhw’n dechrau newid y system fel oedd ynni’n cael ei gynhyrchu – troi’n fwy at olew – ac roedden nhw wedi adeiladu lan reserves o lo ar gyfer y streic.
“Dyna i gyd oedd y National Union of Mineworkers (NUM) wedi’i wneud oedd dechrau ryw overtime ban fel eu bod nhw’n gallu cadw cynhyrchu glo’n ddigon isel.
“Roedd y peth yn gyfan gwbl anhafal, roedd balans y peth i gyd yn ffafrio’r llywodraeth.”
Cafodd y streic ei dyfarnu’n un anghyfreithlon, ac am y rheswm yma doedd gweithwyr oedd yn streicio’n methu ennill cyflog nac yn gallu derbyn budd-daliadau.
Fodd bynnag, derbyniodd y glowyr oedd ar streic yn ne Cymru gefnogaeth gan weithwyr chwareli’r gogledd a ffermwyr y canolbarth, a chafwyd cefnogaeth gan grwpiau megis Lesbians and Gays Support the Miners.
“Un o’r pethau ddywedodd [yr hanesydd a’r gwleidydd] Hywel Francis oedd, ym Mhrydain, eu bod nhw wedi setio lan gwladwriaeth les amgen, ac ar draws Prydain roedden nhw’n meddwl bod rhyw hanner miliwn o bobol – glowyr a’u teuluoedd – yn dibynnu ar y system yma i fyw,” meddai Meic Birtwistle.
“Roedden nhw’n dibynnu ar beth roedd pobol yn ei gynnig a’i roi, a doedd e ddim mor bell yn ôl â hynny.”
‘Cau pwll, lladd cymuned’
Roedd tad a brawd Ben Gregory – ynghyd â nifer o’i gefndryd a’i ewythrod – yn gweithio yn y pyllau glo yn ardal Tredegar, a bu’r ddau yn rhan o Streic y Glowyr.
“Roedd fy nhad a fy mrawd i gyd yn byw ar fudd-dal; doedd dim incwm yn dod mewn i’r tŷ. Wythnos yma, mae lot o atgofion wedi dod yn ôl,” meddai Ben Gregory, sydd bellach yn byw ym Mhenygroes yng Ngwynedd, yn ystod y sgwrs ar stondin Cymdeithas yr Iaith heddiw.
Roedd Ben Gregory oddeutu 21 oed ar y pryd, ac mae ganddo gof o fynd i rali fawr ym Mhontypridd ar Awst 1, 1984.
“Roeddwn i wedi teithio lawr gyda fy nhad a’m mrawd, ac roedd hwn bedwar mis i mewn i’r streic. Dw i’n meddwl ar y pryd roeddwn i dal yn meddwl ei bod hi’n bosib i ennill y streic.”
Daeth y streic i ben ar Fawrth 3, 1984.
Dychwelodd y glowyr i’w gwaith ddeuddydd yn ddiweddarach, a chafodd nifer o byllau glo eu cau dros y blynyddoedd wedyn.
Roedd dros 20,000 o lowyr yng Nghymru yn 1984, ond erbyn diwedd y 1980au roedd y ffigwr hwnnw wedi gostwng i 3,700.
“Mae e wedi newid wyneb y Cymoedd,” meddai Meic Birtwistle wedyn.
“Roedd arfer bod, erbyn hynny, fwy neu lai bwll ym mhob cwm, a chollon nhw hynny.
“Un o sloganau’r NUM ar y pryd oedd ‘Cau pwll, lladd cymuned’, ac yn anffodus dyna beth ddigwyddodd, a does dim digon o adnoddau wedi mynd mewn i drio cymryd lle’r pyllau.”