Mae sgwrs banel wedi’i chynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, lle mae pobol ifanc wedi bod yn galw am fwy o gyfleoedd i wneud interniaeth.

Mae Angharad Morley, sy’n 20 oed ac yn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, a Tegid Phillips, sy’n 22 oed ac wedi graddio mewn Peirianneg o’r un brifysgol, wedi bod yn gweithio dros yr haf i gwmni Bute Energy.

Er bod y ddau yn hapus i gael cyfle i weithio yn y byd ynni adnewyddadwy, dydyn nhw ddim yn credu bod digon o gyfleoedd i bobol ifanc gael profiad gwaith.

“Yr interniaeth efo Ynni Bute oedd un o’r unig rai oeddwn i’n gallu ffeindio,” meddai Angharad Morley wrth golwg360.

“Mae’r cyfleoedd i allu cael profiad gwaith fel hyn, sydd hefyd yn talu, bron yn amhosib.”

Dywed ei bod hi wedi anfon negeseuon at sawl cwmni drwy e-bost a LinkedIn, ond nad oedd hi wedi cael llwyddiant.

“Ddaru fi anfon negeseuon ac ymgeisio gymaint o weithiau a derbyn dim ateb, neu rywbeth fel, we’ll get back to you!

“Does gan y cwmnïau yma ddim diddordeb mewn pobol ifanc, ac mae hynny’n siomedig iawn.”

Dim strwythurau

Dywed Tegid Phillips nad oes gan gwmnïau mawr “ddim strwythurau i gynnig interniaethau”.

“Mae Bute Energy yn amlwg wedi buddsoddi arian ac amser, a chyflogi pobol i wneud yr ymgysylltu efo pobol ifanc,” meddai wrth golwg360.

Dywed y ddau fod yn rhaid i’r prifysgolion wneud mwy i helpu i hysbysebu unrhyw interniaethau sydd yn cael eu cynnig.

Rhys Taylor a Catryn Newton

Un o weithwyr ymgysylltu Bute Energy yw Catryn Newton, sy’n dweud bod yr Eisteddfod yn esiampl amlwg o rywle i hysbysebu cyfleoedd i bobol ifanc, ac hefyd i weithio ar wella cronfa sgiliau Cymru, yn enwedig o fewn ynni adnewyddadwy.

“Mae’n hynod bwysig achos bo ni’n gwybod bo ni ddim efo’r sgiliau sydd angen arnom ni ar gyfer prosiectau ynni,” meddai wrth golwg360.

“Rydym yn gweithio yn agos efo prifysgolion, colegau, clybiau ffermwyr, clybiau pêl-droed, pwy bynnag, er mwyn denu pobol ifanc tuag at y sector ynni adnewyddadwy.”

Pa fath o bobol mae Bute Energy yn chwilio amdanyn nhw, felly?

Yn ôl y cwmni, maen nhw’n chwilio am “unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth”.