Mae cadeirydd BAFTA Cymru wedi canmol y “gwaith ardderchog” sy’n cael ei wneud ym myd ffilm a theledu yng Nghymru.
Bu Angharad Mair yn siarad â golwg360 ar ôl y seremoni wobrwyo fawr yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru neithiwr (nos Sul, Hydref 20).
Achubodd hi ar y cyfle i gydnabod y cynyrchiadau “gwych” dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddweud mai pwrpas cynnal gwobrau BAFTA Cymru yw “dathlu’r gwaith ardderchog” o fewn y diwydiant.
Dywed fod arlwy S4C yn “sefyll ysgwydd yn ysgwydd” â rhaglenni sy’n cael eu cynhyrchu a’u gwylio ar draws y byd.
Llwyddiant i ‘Men Up’ a chynyrchiadau eraill
Ymhlith uchafbwyntiau’r seremoni roedd enwebiadau i’r cynhyrchiad Men Up, sy’n serennu actorion megis Mark Lewis Jones, Iwan Rheon a Joanna Page.
Mae’n olrhain hanes treialon clinigol ar gyfer Viagra am y tro cyntaf yn Abertawe yng nghanol y 1990au.
Cafodd y ddrama chwech o enwebiadau.
Derbyniodd Matthew Barry, awdur y ddrama, ei wobr BAFTA gyntaf yng nghategori’r Awdur.
Roedd Doctor Who a Steeltown Murders wedi derbyn pum enwebiad yr un eleni.
Aeth y wobr Actor i Ncuti Gatwa (Doctor Who), a chafodd Steeltown Murders enwebiad ar gyfer Drama Deledu, ac aeth y wobr Dylunio Gwisgoedd i Dawn Thomas-Mondo.
Dyma gip ar sgwrs Angharad Mair â golwg360 ar y carped coch cyn y seremoni:
“Fi’n browd o weld rhaglenni Cymraeg i @S4C yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â rhai o’r cyfresi mawr sy’n cael eu gweld dros y byd i gyd,” meddai Cadeirydd @BAFTACymru, @angharamair, neithiwr pic.twitter.com/846G9vGYHU
— Golwg360 (@Golwg360) October 21, 2024