Wrth siarad â golwg360 ar noson gwobrau BAFTA Cymru yng Nghasnewydd neithiwr (nos Sul, Hydref 20), fe fu’r cynhyrchydd Alaw Llewelyn Roberts yn trafod yr her o adrodd stori pobol na all y rhan fwyaf o’r gynulleidfa uniaethu â nhw.

Daeth Annes Elwy i frig y categori Actores am ei phortread o’r cymeriad Elin James yn y gyfres Bariau ar S4C, cyfres ddrama sydd hefyd yn cynnwys cyn-garcharorion ymhlith y cast cynorthwyol.

Cafodd y gyfres gyntaf ei darlledu’n gynharach eleni, ac yn dilyn ymateb cadarnhaol gan y gynulleidfa, mae disgwyl ail gyfres yn 2025.

‘Tipyn o fedydd tân’

Cafodd Alaw Llewelyn Roberts ei henwebu yn y categori Torri Trwodd am ei gwaith ar y gyfres.

Roedd gweithio ar Bariau, ei chynhyrchiad cyntaf, “dipyn o fedydd tân” ar y cychwyn, meddai, gyda’r holl waith ymchwil oedd yn dod o geisio cyflwyno stori mewn carchar realistig.

“Roedd hi’n stori mor bwysig i’w dweud o ran cynrychioli profiadau pobol dydy lot ohonom ni ddim yn gallu uniaethu hefo nhw,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n falch o’r hyn rydan ni wedi’i gyflawni, ac o waith caled pawb.”

Mae’r ymateb i’r gyfres gyntaf wedi bod yn “ddifyr”, meddai, gyda llawer o bobol nad ydyn nhw fel arfer yn gwylio S4C wedi mwynhau Bariau.

“Mae yna lot o bobol ddi-Gymraeg wedi mwynhau, ac wedyn wedi mynd ymlaen i wylio mwy o gynnwys S4C, felly mae hynny’n galonogol ofnadwy.

“Mae gennym ni wythnos o baratoi cyn mynd mewn i’r ail gyfres, felly dydw i ddim yn cael llawer o gwsg!

“Ond mae stori’r ail gyfres yn rili dda, a dw i’n edrych ymlaen i’w rhoi ar gamera rŵan.”

Annes Elwy wedi perswadio ei hun nad “oedd yna ddim siawns”

Annes Elwy

Dyma’r wobr BAFTA cyntaf i Annes Elwy ei derbyn.

Aeth hi benben ag Aimee-Ffion Edwards (Dreamland), Alexandra Roach (Men Up), a Nia Roberts (Pren ar y Bryn).

Daeth y fuddugoliaeth yn sioc fawr i Annes Elwy, oedd “wir ddim yn ei disgwyl”, meddai.

Dyma ei hymateb wrth siarad â golwg360 yn fuan wedi iddi hi dderbyn ei thlws: