Derbyniodd Mark Lewis Jones wobr Siân Phillips yng ngwobrau BAFTA Cymru nos Sul (Hydref 20) am ei gyfraniad arbennig i fyd ffilm a theledu.
Mae’r actor o Rosllanerchrugog wedi ymddangos mewn sawl rôl nodedig mewn cynyrchiadau megis Men Up, The Crown, ac Un Bore Mercher.
Derbyniodd y wobr gan ei gyd-actores, Nia Roberts, oedd wedi ei ddisgrifio fo fel “actor greddfol”, gyda’i gyfraniad “enfawr” at y diwydiant ffilm a theledu.
“Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod i wedi gweithio gyferbyn â thi gymaint o weithiau,” meddai cyn ei groesawu i’r llwyfan.
“Mae’n bleser, hen ffrind, i roi’r wobr yma i ti heno. Ti’n ei haeddu e gymaint.”
‘Disgleirdeb, gwytnwch a dewrder’
Wrth dderbyn yr anrhydedd, diolchodd Mark Lewis Jones i Siân Phillips, sy’n “parhau i arwain y ffordd gyda disgleirdeb, gwydwch a dewder”, meddai.
“Fe wnes i droi’n 60 eleni, ac roedd gwybod fod hyn yn dod i fyny yn rhoi cyfle i mi adlewyrchu, ac rwy’n ffeindio fy hun mewn lle da iawn.
“Doedd hi ddim wastad fel hyn, felly rwy’n ddiolchgar iawn i fod yma.”
Dywedodd fod y rhan fwyaf o’i waith wedi’i leoli yng Nghymru – rhywle sy’n “uwchganolbwynt rhagoriaeth”.
Diolchodd yn ddiffuant i’w rieni am eu cymorth ar hyd y ffordd, ac am beidio cwestiynu ei benderfyniad i wneud rhywbeth oedd yn gwbl ddieithr iddyn nhw.
Cyn cloi ei araith, diolchodd i’w asiantiaid ac i’w wraig, Gwenno, ei “bartner ym mhopeth” mae’n ei wneud, a’i blant.
Ar ôl derbyn ei wobr, fe fu Mark Lewis Jones yn siarad â golwg360.
Mae ennill Gwobr Siân Phillips gan @BAFTACymru yn "anrhydedd llwyr", meddai @marklewisjones
Ymhlith y cyfresi mae o wedi serennu ynddyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf mae The Crown, Game of Thrones, Men Up ac Un Bore Mercher pic.twitter.com/TVoo8GxvUP
— Golwg360 (@Golwg360) October 21, 2024