Mae un o ddramâu Theatr Genedlaethol Cymru wedi ennill y wobr am y cynhyrchiad teithiol gorau yn yr UK Theatre Awards.

Cafodd Parti Priodas, sydd wedi’i hysgrifennu gan Gruffudd Owen, ei gwobrwyo mewn seremoni yn Llundain ddoe (dydd Sul, Hydref 20).

Bu’r ddrama ddau actor – Mared Llywelyn a Mark Henry Davies – ar daith ledled Cymru yn ystod y gwanwyn, gan ddenu cynulleidfa dros 2,500 o bobol, wedi iddi gael derbyniad da yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Bydd y sioe’n cael ei dangos ar S4C tua diwedd mis Tachwedd.

Roedd llwyddiant i Death in Venice gan Opera Cenedlaethol Cymru yn y categori opera yn y gwobrau hefyd, ynghyd â dwy wobr i Oliver! yn y Leeds Playhouse.

‘Tîm ofnadwy o dalentog’

Mae’r ddrama wedi’i lleoli mewn parti priodas mewn pabell fawr grand mewn cae ym Mhen Llŷn, ac er mai comedi ydy hi mae hi’n cyffwrdd ar faterion dipyn dwysach megis y ffin denau rhwng joio byw ac alcoholiaeth, yr euogrwydd o adael cynefin Cymraeg ei iaith a cholli etifeddiaeth a thir.

Steffan Donnelly oedd y cyfarwyddwr, a’r ddau actor yn chwarae nifer o gymeriadau, yn ogystal â’r ddau brif gymeriad, Lowri ac Idris, sy’n westai anhapus yn y briodas.

Roedd dod i’r brig yn y gwobrau’n “syrpreis bach neis” ddoe, meddai Gruffudd Owen, gan ddweud ei fod yn falch mai bod yn gynhyrchiad teithiol sydd wedi ennill y clod iddi.

“Ddoe, roeddwn i mewn caffi tra’r oedd y plant yn nofio, yn cael awran i fi’n hun i wneud gwaith, ac mi ddaeth yna fideo drwodd ar grŵp WhatsApp taith Parti Priodas,” meddai’r dramodydd a’r bardd wrth golwg360.

“Doeddwn i ddim yn cofio bod y gwobrwyo y diwrnod hwnnw, ac wedyn gweld bod Parti Priodas wedi ennill. Roedd hynny’n syrpreis bach neis.

“Mi aeth Parti Priodas ar daith go faith i nifer o ganolfannau, rhai ohonyn nhw’n llefydd doedd y Theatr Gen ddim wedi bod iddyn nhw o’r blaen, llefydd fel Clwb Rygbi Nant Conwy.

“Roedd y gwaith caled roedd y tîm yn ei wneud – a fedra i gymryd dim clod o hynny, roedd fy ngwaith i’n hawdd yn eistedd adre’n sgrifennu’r peth – roedd y criw oedd yn gorfod codi’r set bob noson, rhaglennu’r goleuo mewn pob math o leoliadau gan gynnwys neuadd ysgol ym Machynlleth, theatr go fawr ym Mhwllheli a Chaernarfon, clwb rygbi yn Llanrwst… Ti’n gorfod bod yn hyblyg eithriadol.

“Roedd ganddyn nhw dîm ofnadwy o dalentog ac ymroddgar yn gweithio am wythnosau, ac mae’n neis eu bod nhw’n cael y gydnabyddiaeth.

“Mae yna gymaint o waith caled yn mynd tu ôl i’r llwyfan i sicrhau taith lwyddiannus, gan gynnwys y marchnata a phethau felly. Mi werthodd hi’n dda fel sioe.”

Gruffudd Owen – awdur y ddrama Parti Priodas

‘Bod yn lleol ddim yn broblem’

Roedd y cynhyrchiad cyntaf ar gyfer pedwar perfformiad yng Nghaffi Maes B ym Moduan yn unig, a doedd dim disgwyl bryd hynny y byddai hi’n mynd ar daith.

“Yn fy mhen i, roeddwn i’n ei hanelu hi at gynulleidfa Eisteddfod ac roedd yna lot o bobol o Ben Llŷn yn mynd i fod yno,” meddai Gruffudd Owen wedyn.

“Roeddwn i mor falch ei bod hi wedi cael ymateb da yn yr Eisteddfod, wedyn yn deall bod Theatr Gen yn bwriadu’i theithio hi – roedd hynny’n gyffrous, ond roedd yna ddarn ohonof i’n meddwl ‘a ydy hyn yn mynd i gyfieithu ’ta ydy hi’n rhy lleol?’

“Yr ateb ydy, dw i ddim yn meddwl bod bod yn benodol ac yn lleol yn broblem.

“Mae o’n ffodus iawn ei bod hi wedi’i lleoli mewn priodas, achos mae gan bawb ryw brofiad o fod mewn priodas, ac mae yna wastad ‘ni a nhw’ mewn priodas, hynny ydy, mae gen ti ddau deulu.”

Cafodd y sioe ei pherfformio ugain o weithiau fis Ebrill a Mai eleni, gyda chwe sioe yng Nghaerdydd, ac eraill mewn trefi megis Llanelli, Merthyr Tudful a Llangefni, a nifer ohonyn nhw’n llawn.

Cafodd ail berfformiad ei ychwanegu ym Mhwllheli i orffen y daith, cymaint oedd y galw.

“Mi oedd yna bobol yn dŵad na fysa’n mynd i weld sioe theatr fel arfer,” ychwanega’r dramodydd.

Cafodd y perfformiad yn Galeri Caernarfon ei ffilmio, a bydd i’w weld ar y teledu fis nesaf.

Parti i’w gofio – drama wedi newid bywydau

Non Tudur

Un o uchafbwyntiau’r daith i Mark Henry Davies oedd ei pherfformio yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth