Mae Owain Wyn Evans, fu’n cyflwyno gwobrau BAFTA Cymru o Gasnewydd neithiwr (nos Sul, Hydref 20), wedi canmol y dathliad “hyfryd” o ddiwydiant ffilm a theledu’r genedl.

Cafodd noson wobrwyo flynyddol BAFTA Cymru ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru, a’r darlledwr a chyflwynydd rhaglen frecwast BBC Radio 2 oedd yn llywio’r noson.

Cafodd 21 o wobrau eu cyflwyno, a dwy wobr arbennig BAFTA.

Derbyniodd Annes Elwy ei gwobr BAFTA gyntaf am ei pherfformiad yn y gyfres Bariau, ac fe aeth gwobr yr Actor Gorau i Ncuti Gatwa, seren Doctor Who.

Mark Lewis Jones oedd yn deilwng o Wobr Siân Phillips eleni, ac fe aeth y wobr Cyfraniad Arbennig i’r cynhyrchydd Julie Gardner.

Cyflwyno’r noson yn “fraint enfawr”

Roedd Owain Wyn Evans eisoes wedi cyflwyno gwobr yn seremoni BAFTA Cymru y llynedd, ond eleni oedd y tro cyntaf iddo arwain y digwyddiad.

Ar ddechrau’r noson, pwysleisiodd wrth golwg360 pa mor wych yw gweld cyflwr presennol diwydiant ffilm a theledu Cymru, a’i fod yn edrych ymlaen at gydnabod talent y rhai sy’n gweithio tu ôl i’r camerâu, yn ogystal ag o’u blaen.

Yn un sydd wedi symud yn ôl i Gymru wedi cyfnod yn byw yn Llundain, roedd hi’n gyfle gwych i Owain Wyn Evans fod yn rhan o’r dathliadau, meddai.

Yn ystod y seremoni, dywedodd ei bod yn “fraint enfawr” bod yno i ddathlu blwyddyn arall ym myd ffilm a theledu Cymraeg.

Daeth y seremoni i ben wrth iddo longyfarch yr enillwyr a’r enwebeion, a phawb oedd ynghlwm â’r digwyddiad.

Cyn cyflwyno’r seremoni, fe fu Owain Wyn Evans yn siarad â golwg360: