Fe fydd Ruth Jones a James Corden, ser y gyfres Gavin & Stacey, yn actio’u cymeriadau Nessa a Smithy wrth gyflwyno rhaglen arbennig ar BBC Radio 2 ar Ddydd Nadolig.

Daeth cadarnhad o’r newyddion gan Zoe Ball ar ei rhaglen frecwast, wrth iddi gyhoeddi y bydd y rhaglen radio arbennig yn cael ei darlledu rhwng 6.30-9.30yb ddydd Llun, Rhagfyr 23.

Byddan nhw’n cael cwmni nifer o actorion eraill y gyfres yn ystod y sioe, gan gynnwys Joanna Page (Stacey), Matt Horne (Gavin), Rob Brydon (Bryn), Alison Steadman (Pam), Larry Lamb (Mick) a Rob Wilfort (Jason).

Bydd y bennod olaf erioed o’r gyfres deledu’n cael ei darlledu am 9yh ar Ddydd Nadolig.

Y rhaglen radio

Yn ystod y rhaglen radio, bydd Ruth Jones a James Corden yn datgelu nifer o gyfrinachau’r gyfres ac yn rhannu eu hatgofion o’r blynyddoedd a fu yn hanes y gyfres, yn ogystal â thrafod eu hoff arferion Nadoligaidd a chwarae eu hoff ganeuon.

Bydd Alison Steadman hefyd yn westai arbennig ar raglen Gary Davies, Tracks of My Years, drwy gydol wythnos y Nadolig (Rhagfyr 23-27), gan ddewis y caneuon sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar ei bywyd.