O Sbaen i Seland Newydd a Zambia, mae yna flas rhyngwladol ar S4C y Nadolig hwn – yn ogystal â rhifynnau arbennig o hen ffefrynnau – yn briodas, nosweithiau llawen, carolau’r plant, sioe siarad boblogaidd a deuawd o fri. Ym myd y ddrama, bydd ymweliadau arbennig â Chwmderi a Glanrafon yn ogystal â chyfres newydd gyffrous wedi’i gosod yn ninas Casnewydd. Felly anghofiwch am y Radio Times, dyma rai o uchafbwyntiau golwg360.
19 RHAGFYR
Llond Bol o Sbaen
Mae’r cogydd a’r Cofi tanbaid, Chris ‘Flamebaster’ Roberts ar grwydr yn Ewrop, ac ar ôl blasu’i ffordd drwy Galicia a Mallorca eisoes y mis hwn, Barcelona sy’n galw heno i ddysgu mwy am ddiwylliant bwyd bywiog prifddinas Catalunya. O tapas mewn bariau vermuth i ddosbarth meistr paella, bydd Chris yn cael profiadau bwyta bythgofiadwy yng nghwmni Cerys Matthews.
20 RHAGFYR
Carol yr Ŵyl
10 carol mewn 10 lleoliad arbennig. Pa ysgol fydd yn ennill teitl Carol yr Ŵyl 2024? Lisa Angharad sy’n cyflwyno’r gystadleuaeth boblogaidd hon i ysgrifennu carolau gwreiddiol ar gyfer plant ysgolion cynradd. Un i berthnasau’r rhai bach sy’n cymryd rhan yn bennaf, i’w fwynhau gyda phaned a mins pei.
21 RHAGFYR
Nia Ben Aur
Awn i Dir na nOg, heibio Ponty, mewn addasiad llwyfan newydd sbon o’r chwedl Geltaidd a lwyfannwyd fis Awst eleni yn y Steddfod orau ers ache. Cyfle i fwynhau’r sioe ar ei newydd wedd gyda Bethan McLean (Cleddau) yn chwarae rhan Nia Ben Aur, Gareth Elis fel Osian, a Chôr enfawr yn canu trefniannau gan aelodau o fand Calan.
22 RHAGFYR
Ffa Coffi Pawb!
30 mlynedd ers chwalu, dilynwn hynt a helynt y band ffa’r out o Pesda trwy sîn danddaearol Cymru’r 1980au a’r 90au hyd at lwyddiant byd-eang y Super Furries. Gyda melys atgofion ffans a ffrindiau fel Rhys Ifans, Mark Roberts, Owen Powell a’r bardd Nerys Wiliams.
23 RHAGFYR
Sgwrs Dan y Lloer
Elin Fflur sy’n holi Daf James o Gaerdydd, awdur un o ddramâu Saesneg gorau 2024, Lost Boys and Fairies ddaeth â’r Gymraeg i oriau brig BBC One. Sgwrs ddiddan a’n cyfle arferol i sbecian ar erddi ac addurnoleuadau Cymry nodedig.
24 RHAGFYR
Bronwen Lewis
Uchafbwyntiau sioe deithiol ‘Ystafell Fyw’ y ferch o Flaendulais ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau Pontardawe – i’r dim wrth blicio tomen o datws ar gyfer drannoeth.
DYDD NADOLIG
Canu Gyda Fy Arwr
Shifft ddwbl i Bronwen Lewis dros yr ŵyl, wrth iddi hi a Rhys Meirion helpu i wireddu breuddwyd rhywun sydd am gwrdd â’i arwr cerddorol a chanu deuawd wedyn. Yr arwr Nadoligaidd yw’r tenor a’r cyn foi-soprano o Fôn, Aled Jones, bellach yn DJ Classic FM ac anwylyn pob nain o Walchmai i Walthman Abbey.
Pobol y Cwm
Pennod awr o’r gyfres a ddathlodd garreg filltir bwysig eleni. Daw sawl teulu siwmperog at ei gilydd i rofio’r bocs siocledi, rhai’n sleifio allan am lapswchad, eraill fel Ieuan Griffiths yn llwyddo i bechu sawl un – ac nid dim ond achos ei dei Dolig. Ond draw ym Maesyderi, mae distawrwydd a diflaniad sydyn yn peri pryder i Gaynor, Mark a Cassie – ac eiliad o drais yn newid cwrs pethau am byth.
Priodas Pymtheg Mil
Bydd “mwy o arian, mwy o sioe!” eleni, pan fydd Aled Johnson a Malin Gustavsson o Foncath yn priodi (gobeithio!) â chyllideb mwy hael o £15,000 ar gyfer eu Diwrnod Mawr. Disgwyliwch flas Swedaidd yn Sir Benfro, gyda help llaw brwdfrydig Emma Walford a Trystan Ellis-Morris. Skål!
GŴYL SAN STEFFAN
Rownd a Rownd
Mae hwyl yr ŵyl yn ei anterth yn y caffi. Ond dyw pawb o’r pentref ddim yn teimlo fel parti, gyda Iestyn ar ei ben ei hun yn dal i alaru a hiraethu am Tammy. Nid Siôn Corn yw’r unig ymwelydd annisgwyl, ac mae’r trafferth a ddaw yn ei sgil yn peri gofid a chynnwrf mawr. Mae Mair a Ioan yn benderfynol o dynnu’n groes a dathlu yn eu dull hwyliog eu hunain, ond mae chwarae’n troi’n chwerw a’r ddau yn wynebu sefyllfa beryglus. Tydi’r arddegau’n dysgu dim.
Iolo a Dewi: Y Tad a’r Mab a Zambia
Awn am dro i Barc Cenedlaethol De Luangwa, Zambia yng nghwmni Iolo Williams a’i fab Dewi sy’n arwain saffari bywyd gwyllt gyda’i gilydd am y tro cyntaf erioed. Gwylio perffaith yng nghanol gwynt a glaw dibaid Cymru.
Elis James: Derwydd
Wedi taith lwyddiannus ledled gwledydd Prydain, mae’r Swans-garwr a seren Radio 5 Live yn cyflwyno’i sioe standyp arbennig o flaen pobl ei filltir sgwâr yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.
27 RHAGFYR
Gogglebocs Cymru ’Dolig
Tudur Owen sy’n pontio’r s’lebs wrth iddyn nhw leisio barn am ddetholiad o deledu’r Dolig. Ai chwerthin neu chwyrnu o flaen y bocs fyddan nhw?
Dathlu Dewrder 2024
Cyfle i ddathlu dewrder a dweud diolch wrth arwyr tawel ein cymunedau, yr unigolion hynny sydd wedi bod drwy’r felin a phrofi dyddiau tywyll iawn. Wedi’i chyflwyno gan Elin Fflur a Lily Beau, dyma raglen sy’n siwr o ennyn dagrau.
28 RHAGFYR
Noson Lawen Pobol y Cwm
Emyr Wyn (Dai Ashurst) a Rhys ap William (Cai) sy’n llywio’r parti i ddathlu hanner canrif o seboni yng nghwmni cantorion Cwmderi ddoe a heddiw, gan gynnwys Arwyn Davies, Sue Roderick, Rebecca Trehearn, Gillian Elisa, Ieuan Rhys, a llawer mwy.
29 RHAGFYR
Sgwrs Dan y Lloer
Rhifyn arbennig o’r sioe sgwrsio hynod boblogaidd, gyda’r cyn is-bostfeistr, Noel Thomas o Gaerwen a garcharwyd ar gam a cholli popeth adeg llanast system gyfrifiadurol ‘Horizon’ cyn clirio ei enw’n llwyr. Rhaglen i brocio’r emosiynau yng nghwmni dyn ei filltir sgwâr a Chymro i’r carn a gafodd ei urddo i’r Orsedd eleni.
Ar y Ffin
Drama newydd o’r De-ddwyrain, lle mae’r Ynad profiadol Claire Lewis Jones (Erin Richards, The Crown) yn canfod gwead o weithgareddau troseddol allai ei pheryglu hi a’i theulu – wrth i’w merch Beca ymhél â chriw ifanc lleol sy’n tynnu’n groes i Saint Pete (Tom Cullen, gynt o Weekend, Downton Abbey), “Tony Soprano Casnewydd” chwadal Claire. Mae’r ffin rhwng beth sy’n iawn ac anghyfiawn yn denau ar y naw, wrth i reddf mamol Claire fynd ben-ben â’i hymrwymiad i gynnal y gwir. Gyda chast ategol fel Matthew Gravelle, Lauren Morais, Kimberly Nixon a Ifan Huw Dafydd.
30 RHAGFYR
Cefn Gwlad
Mari Løvgreen sy’n cwrdd â Chymry sydd wedi codi pac am Aoteaora (Seland Newydd) gan gynnwys Mark ‘yr Hewl’ adawodd Llandeilo 25 mlynedd yn ôl a bellach yn rhedeg busnes ‘Welshy Contracting’ ar Ynys y De, a Josie Gritten o Lanfrothen sydd wedi bwrw gwreiddiau ar Ynys y Gogledd er mwyn manteisio ar ffordd lesol, gyfannol o fyw.
31 RHAGFYR
Noson Lawen Bryn Fôn
Gwahoddiad gan Ffion Emyr i fwynhau rhai o ganeuon bytholwyrdd yr actor, y canwr a’r rebal wicend. Gydag Elidyr ‘Bwncath’ Glyn, Alys Williams, Siân James, Iwan Fôn a Chôr Ysgol Dyffryn Nantlle ymhlith llawer mwy. Noson hiraethlon braf i gyd-fynd â’ch prosecco nos Galan.
Heno Nos Galan
Parti criw Llanelli wrth iddyn nhw edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, drwy edrych nôl dros y flwyddyn a fu. O ben-blwyddi crwn i lwyddiannau byd chwaraeon a cherddoriaeth, gyda pherfformiadau arbennig gan Hywel Pitts ac enillydd Cân i Gymru 2024, Sara Davies. Ond peidiwch da chi â sôn am helynt y bleidlais ffôn.