Mi fydd Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli’n cael ei chynnal fis Chwefror nesaf, a hynny am y tro cyntaf ers y 1970au.

Mae swyddogion yr Eisteddfod yn galw am geisiadau ar gyfer cystadlaethau’r ŵyl, ac mae’r testunau bellach i’w gweld ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Yn ogystal, mae galw am unrhyw atgofion neu wybodaeth sydd gan y cyhoedd am yr Eisteddfod hanesyddol yn y Felinheli, wedi cymaint o fwlch cyn atgyfodi’r digwyddiad.

Hanes ‘drawiadol’

Mae’n ymddangos bod Eisteddfod Gadeiriol wedi bodoli yn y Felinheli ers amser maith.

“Does gynnon ni ddim dyddiad yr Eisteddfod gyntaf erioed,” meddai Osian Wyn Owen, sy’n fardd lleol ac un o drefnwyr yr Eisteddfod, wrth golwg360.

Wrth geisio ymchwilio i hanes yr ŵyl, mae’n debyg i’r trefnwyr ddod ar draws adroddiad papur newydd o 1891 ym mhapur newydd Y Werin.

“Mae’r disgrifiad o’r Eisteddfod yn drawiadol!”, meddai Osian Wyn Owen wedyn.

Dyma ddywedodd yr adroddiad:

“Y mae yn llawenydd gennym hysbysu fod rhagolygon Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli yn hynod o addawol.

“Yr ydym wedi codi pabell i gynnwys tua thair mil o bobl.”

Dim ond 2,000 o bobol sy’n byw yn y Felinheli erbyn heddiw – sy’n rhoi rhyw argraff o boblogrwydd yr Eisteddfod bryd hynny, meddai Osian Wyn Owen.

Hel atgofion

Mae’n debyg i’r traddodiad ddod i ben rywbryd yn y 1970au, ond pytiog ydy’r wybodaeth sydd gan Osian Wyn Owen a’i gyd-drefnwyr, yn enwedig am fod hynny “cyn i neb o swyddogion presennol yr Eisteddfod gael eu geni hyd yn oed!”.

Maen nhw wedi derbyn llun o’r dorf yn Eisteddfod y Felinheli tua 1971 neu 1972, drwy gymorth Awen McDougall, sy’n byw’n lleol.

Yn ogystal, mae un o gadeiriau’r Eisteddfod wreiddiol wedi dod i’r fei.

Fe enillodd Meirion Hughes y gadair hon yn Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli yn 1973.

Cadair Eisteddfod y Felinheli 1973

Roedd y gystadleuaeth honno wedi’i beirniadu gan y Parchedig John Gwilym Jones, aeth yn ei flaen i ddod yn Brifardd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yna’n Archdderwydd.

Mae Anwen Lynne, nith yr enillydd, wedi rhoi’r gadair yn rhodd i’r Eisteddfod gyfoes.

Mae’r pwyllgor yn galw am ragor o wybodaeth gan unrhyw un sydd wrthi’n pori drwy hen luniau neu’n hel atgofion.

Byddai’r Eisteddfod yn gwerthfawrogi cael gafael ar “unrhyw beth,” meddai Osian Wyn Owen.

“Rydym wedi cael ar ddeall yr wythnos hon bod casgliad o luniau yn Neuadd Goffa’r pentref, ac mae’n debyg y byddwn yn derbyn copïau digidol o hen luniau’r Eisteddfod yn fuan. Cyffrous!

“Byddai hen luniau, straeon, atgofion, tystysgrifau ac yn y blaen yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.”

Codi arian

Catrin Gwenllian, un o wirfoddolwyr brwd y pentref, awgrymodd yn wreiddiol fod eisiau codi’r Eisteddfod o’r llwch.

Dywed Osian Wyn Owen fod Catrin Gwenllian wedi meddwl “mor rhyfedd oedd o nad oedd Eisteddfod mewn pentref mor Gymreigaidd ac mor llawn o dalent!”

“Dechreuodd hithau holi o gwmpas os oedd diddordeb gan bobol leol, ac fe gafodd pwyllgor ei sefydlu,” meddai.

“Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer y diwrnod.”

Ymhlith y paratoadau hyn, cynhaliodd y pwyllgor ocsiwn i godi arian yn nhafarn Y Fic yn y pentref.

Tudur Owen a Karen Wynne oedd yn llywio gwerthu’r noson honno, ac fe lwyddodd y pwyllgor i godi £3,000.

Yr uchafbwynt, yn ôl Osian Wyn Owen, oedd “gwerthu crys rygbi’r Llewod wedi ei arwyddo gan gyn-fachwr Cymru, Ken Owens”.

“Mae pobol wedi bod mor hael,” meddai.

Cyfranogi

Mae Osian Wyn Owen a’r swyddogion eraill yn galw am ragor o gymorth o hyd, ac yn rhestru’r cyfraniadau y gallai pobol eu gwneud:

  • dod yn ffrind i’r eisteddfod drwy roi cyfraniad, a bydd eich enw yn cael ei nodi ar raglen yr Eisteddfod
  • noddi cystadleuaeth er cof am un o’ch anwyliaid
  • gwneud cacen ar gyfer diwrnod yr Eisteddfod
  • stiwardio ar ddiwrnod yr Eisteddfod

Yn ogystal, mae’r swyddogion yn galw am gyfansoddiadau gan feirdd lleol sy’n awyddus i gystadlu.

Mae’r testunau bellach yn hygyrch ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Dyddiad cau’r cystadlu ydy dydd Sadwrn, Ionawr 18.

Mae modd cyflwyno gwaith dros e-bost i eisteddfodfelinheli@gmail.com.

Caiff yr Eisteddfod ei chynnal yn Neuadd Goffa’r Felinheli ddydd Sadwrn, Chwefror 1.