Noah ac Olivia oedd yr enwau mwyaf poblogaidd i fabis yng Nghymru yn 2023, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Olivia oedd yr enw mwyaf poblogaidd i ferched yng Nghymru a Lloegr, a hynny am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

Noah oedd y dewis cyntaf i fechgyn yng Nghymru, a Muhammad yn dod i’r brig yn Lloegr.

Ymhlith yr enwau Cymraeg eraill roedd yn fwyaf poblogaidd yng Nghymru oedd Osian, Harri, Macsen, Jac a Tomos i fechgyn, a Mali, Alys, Cadi, Mabli a Ffion i ferched.

Enwau tymhorol

“Mae ein data yn dangos rhai tueddiadau newydd diddorol ymhlith enwau babanod yn 2023,” meddai Greg Ceely o’r ONS.

Ar gyfer merched yng Nghymru a Lloegr, fe fu cynnydd ym mhoblogrwydd enwau tymhorol fel Autumn a Summer ac, ar gyfer babanod gafodd eu geni ym mis Rhagfyr, Holly, Robyn a Joseph. Mae’r enwau yma bellach yn y 100 uchaf.

“Roedd enwau dyddiau’r wythnos fel Sunday a Wednesday hefyd yn fwy poblogaidd,” meddi wedyn.

“Rydyn ni’n parhau i weld dylanwad diwylliant poblogaidd yn cael ei adlewyrchu yn newisiadau rhieni, gyda chynnydd mewn enwau cerddorion fel Billie, Lana, Miley a Rihanna ar gyfer merched a Kendrick ac Elton i fechgyn.”