Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn i Gymru am law trwm a gwyntoedd cryfion ar gyfer y dyddiau nesaf.

Mae’r rhybudd cyntaf mewn grym o 3yp prynhawn ‘ma (dydd Iau, Rhagfyr 5) hyd at 6yb fory (dydd Gwener, Rhagfyr 6).

Mae ail rybudd mewn lle o 3yp ddydd Gwener hyd at 6yb ddydd Sul.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae “perygl i fywyd” yn y gwyntoedd cryfion yn enwedig ar hyd yr arfordir oherwydd tonnau mawr.

Fe allai achosi problemau i deithwyr hefyd ar y ffyrdd, rheilffyrdd a’r llongau fferi yn ystod y tywydd garw.

Mae disgwyl gwyntoedd o 40-50mya a hyd at 60-70mya mewn rhai llefydd ar hyd yr arfordir.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i ddiogelu eu heiddo gan gynnwys biniau, siediau a ffensys.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd: “Os ydych chi ar yr arfordir, arhoswch yn ddiogel yn ystod tywydd stormus trwy fod yn ymwybodol o donnau mawr. Hyd yn oed o’r lan gall tonnau mawr eich sgubo oddi ar eich traed ac allan i’r môr.”