Er bod Senedd Cymru a San Steffan yn llefydd lle mae ein cynrychiolwyr gwleidyddol yn dod at ei gilydd i drafod deddfwriaeth ar ein rhan ni, nid yn aml iawn mae’n adlewyrchu sut fyddai sgwrs o’r fath rhwng pobol gyffredin.
Ddydd Gwener diwethaf (Tachwedd 30), roeddwn yn teimlo bod y ddadl ar ail ddarlleniad y Bil Cymorth i Farw, efallai, yn cyfateb i’r diwylliant gwleidyddol.
Pleidlais rydd maen nhw’n galw dadl lle dydy aelodau ddim yn cael eu chwipio gan eu pleidiau i bleidleisio mewn ffordd benodol, fel sydd yn digwydd weithiau.
Ddydd Gwener, roedd gennym ni ddwy ochr i ddadl sydd ag amryw o atebion gwahanol:
Beth sy’n diffinio rhywun efo salwch terfynol?
Sut fyddai rhoi cymorth i rywun i farw?
Pa oedran mae’n rhaid i rywun fod i fedru dewis marw?
Mae’r atebion i’r cwestiynau hyn yn oddrychol.
Roedd siambr Tŷ’r Cyffredin yn frith o areithiau llawn emosiwn ac angerdd am bwnc marwolaeth, sydd yn dueddol o fod yn anghysurus i nifer o bobol yng ngwledydd Prydain.
Wrth wrando ar y ddadl, mi fyddech chi’n cael yr argraff mai pleidleisio i beidio cyfreithloni cymorth i farw oedden nhw – a hynny ar sail parodrwydd pobol i sefyll i fyny a siarad allan o blaid yr hyn oedd yn cael ei gynnig.
Roedd nifer helaeth o areithiau yn erbyn cyfreithloni cymorth i farw. Ond llwyddodd y ddeddfwriaeth yn ei ail ddarlleniad, o 325 pleidlais i 270.
Efallai bod yna deimlad ymysg yr aelodau bleidleisiodd o blaid bil Kim Leadbeater nad oedd y math o ddeddfwriaeth dan sylw o reidrwydd yn rhywbeth fedren nhw leisio cefnogaeth iddi yn gyhoeddus.
I mi, mae yna ryw fath o gysylltiad rhwng y ffordd ddaru’r ddadl droi allan a chefnogaeth i bleidiau poblyddol fel Reform. Hynny yw, pedair miliwn o bleidleisiau gafodd Reform yn yr etholiad cyffredinol, ond prin fod ganddyn nhw gefnogaeth weledol. Mae’n ddadl gyffredin bod pleidleiswyr asgell dde yn llai parod i ddweud eu bod nhw wedi pleidleisio mewn rhyw ffordd. Maen nhw’n fwy tebygol o dderbyn beirniadaeth gan eu ffrindiau a’u teuluoedd ac yn y blaen.
Meddyliwch am gwymp y wal goch a thwf pleidlais Geidwadol i Boris Johnson yn 2019 yng Nghymru – roedd pobol wedi syfrdanu, efallai gan nad oedd pobol yn barod i siarad yn agored am eu cefnogaeth i’r Ceidwadwyr.
Efallai bod yr un peth yn wir am Reform heddiw; mae Nigel Farage yn ffigwr sydd, yn gyhoeddus, un ai yn cael ei edmygu neu ei gasáu.
Ond mae’n sicr bod yna bobol tu ôl i ddrysau caeëdig nad ydyn nhw, efallai, ar y naill begwn na’r llall.
Tybed ai dyma fydd ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru yn 2026 – mwy o wneud sioe o ymgyrchu ar draul gwleidyddiaeth flaengar Llafur, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd, tra bod y gefnogaeth i bleidiau’r asgell dde, fel Reform, yn tyfu.
Beth bynnag fydd yn digwydd, byddai’n ddifyr clywed unrhyw ymatebion i’r cyferbyniad dw i wedi’i nodi yma… teimlwch yn rhydd i ’ngalw i’n wallgof!