Bydd ffïoedd prifysgol yng Nghymru yn codi i £9,535 y flwyddyn o fis Medi 2025.

Mae hyn yn gynnydd o 3.1% ar ben y £9,250 y bu myfyrwyr yn ei dalu eleni.

Dyma’r ail godiad yn olynol, wedi i’r ffïoedd gynyddu fis Medi eleni, am y tro cyntaf ers 2012.

Roedd y ffïoedd wedi’u cadw ar £9,000 cyn hynny.

Roedd y penderfyniad i godi’r ffïoedd unwaith yn rhagor yn “anodd ond yn angenrheidiol”, yn ôl Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach Cymru.

Wrth esbonio’r penderfyniad, dywed fod angen i’r Llywodraeth “sicrhau bod sefydliadau addysg uwch Cymru yn parhau i gystadlu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig”.

Rhagor o gymorth

Wrth geisio lleddfu effaith y codiadau, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnig cynnydd yn y cymorth cynhaliaeth mae myfyrwyr yn ei dderbyn.

Bydd hyn yn golygu bod myfyrwyr is-raddedig sy’n gymwys am gymorth yn derbyn 1.6% yn fwy nag o’r blaen.

Mae’r un yn wir ar gyfer uchafswm y cymorth ar gyfer astudiaethau meistr ôl-raddedig ac astudiaethau doethurol ôl-raddedig, fydd hefyd yn cynyddu 1.6%.

“Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol, ac mae’n destun balchder i mi fod Cymru bob amser wedi cynnig y gefnogaeth ariannol fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i’n myfyrwyr,” meddai Vikki Howells.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi pobol i fuddsoddi yn eu dyfodol a sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb, waeth beth yw eu cefndir, a’u bod yn gallu manteisio arni, fel y gallwn godi lefel sgiliau er budd economi Cymru i’r dyfodol.

“Rwy’ am fod yn glir na ddylai’r cynnydd bach hwn mewn ffïoedd ddarbwyllo unrhyw un o Gymru sy’n ystyried gwneud cais am brifysgol y flwyddyn nesaf i beidio â gwneud hynny.”

‘Baich dyled’

Ond yn ôl Deio Owen, Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, mae’r cynnydd yn ychwanegu at “faich dyled rhai o’r bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas”.

Er ei fod yn croesawu “cynnydd mewn cynhaliaeth i fyfyrwyr”, mae’n gofidio nad yw’n “mynd i’r afael ag anghenion llawer o ddysgwyr heddiw”.

“Mae un ym mhob deg o’n myfyrwyr yn defnyddio banciau bwyd, ac mae bron i un ym mhob pump wedi methu dosbarth am na allan nhw fforddio costau teithio,” meddai.

Bydd y cynnydd yn y ffïoedd yn golygu £5 yr wythnos yn ychwanegol o ddyled i bob myfyriwr, yn ôl amcangyfrifon yr Undeb.

“Nid yw gwneud i fyfyrwyr dalu £5 ychwanegol yr wythnos i gadw’r goleuadau ymlaen yn gynaliadwy, ac mae angen adolygiad brys arnom o’r modd y caiff Addysg Uwch ei hariannu yng Nghymru,” meddai Deio Owen wedyn.

“Rydym angen cyllido tecach, sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a hynny ar fyrder i fyfyrwyr a phrifysgolion sy’n sicrhau bod addysg yn hygyrch i bawb.”