Mae Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, yn dweud ei bod hi’n “hynod falch” o gael agor swyddfa newydd yn ei hetholaeth, ar Heol Lammas yng Nghaerfyrddin.
Cafodd ei hethol yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Hi ydy aelod seneddol cyntaf etholaeth newydd Caerfyrddin, sy’n cyfuno rhannau o hen etholaethau Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gyda Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Pan agorodd y swyddfa ar Dachwedd 25, roedd hi’n gobeithio y byddai’n “ganolbwynt i drigolion o fewn yr etholaeth”, sydd bellach yn ymestyn i bob cwr o’r sir.
Hwb canolog
Wrth siarad â golwg360, dywed ei bod hi’n bwysig cynnal cysylltiadau rhwng aelodau etholedig a’u hetholwyr.
Eglura fod dewis lleoliad addas ar gyfer y swyddfa’n golygu canfod rhywle sy’n “hawdd i’w gyrraedd o fewn yr etholaeth, fel y gall pobol ddod atom gyda’u pryderon, boed hynny am faterion lleol neu genedlaethol”.
Dylai hefyd fod yn “hwb canolog o fewn yr etholaeth”, meddai, ac yn adnodd pwysig i fedru creu’r clymau democrataidd hyn.
Mae’n “hanfodol i’r etholaeth” fod “gan bob un etholwr gysylltiad uniongyrchol â’u cynrychiolydd yn San Steffan”, meddai.
‘Atgof o’n hanes a’n gwreiddiau’
Ar ddiwrnod yr agoriad, fe wnaeth y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths gyflwyno llun i Ann Davies o swyddfa wreiddiol Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin yn cael ei hagor ar Ddydd Calan 1970.
Roedd yr anrheg honno’n “atgof o’n hanes a’n gwreiddiau”, meddai, gan ychwanegu ei bod yn “anrhydedd cael gwneud cam arall yn hanes Plaid Cymru yma yng Nghaerfyrddin”.
Etholaeth Caerfyrddin oedd y gyntaf i ethol Aelod Seneddol o Blaid Cymru, pan enillodd Gwynfor Evans is-etholiad yno yn 1966.
Adenillodd y Blaid Lafur yr etholaeth yn 1979, gan gadw’r sedd tan 1997, pan gafodd ei hollti’n ddwy.
Fe fu Plaid Cymru’n llwyddiannus ym mhob etholiad ers 2001 yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond doedden nhw heb ennill unwaith yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Ann Davies ydy’r ymgeisydd cyntaf yn enw Plaid Cymru ers Gwynfor Evans i fod yn fuddugol mewn etholaeth sy’n cynrychioli’r ddwy ran o Sir Gaerfyrddin, felly, wedi i’r etholaethau newid unwaith yn rhagor yn yr etholiad eleni.
“Mae’n arwydd o’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud heddiw, ac o’r ymrwymiad parhaus i sicrhau bod lleisiau ein cymunedau’n cael eu clywed,” meddai.
“Rwy’n falch o fod yn rhan o’r cyfnod hwn, a bydd y swyddfa hon yn parhau i fod yn ganolbwynt i’n hymrwymiad i’r etholaeth a thrigolion Caerfyrddin.”