Mae dirprwyaeth o Gatalwnia wedi teithio i’r Senedd yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 4) er mwyn egluro pam eu bod nhw’n teimlo’u bod nhw’n genedl.

Yn ystod ei ymweliad, bydd Josep Rull, Llefarydd Senedd Catalwnia, yn cynnig creu rhwydwaith o gyrff deddfwriaethol wedi’u datgarboneiddio.

Bydd yn ymweld â Bae Caerdydd a San Steffan yn ystod ei ymweliad, wrth i’r cenhedloedd rannu eu profiadau o frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Mae gan y Senedd yng Nghaerdydd nod o ddod yn garbon niwtral yn y blynyddoedd i ddod, ac mae Josep Rull yn teimlo y bydd hi’n haws i Gymru gyflawni hynny na Chatalwnia.

Dydy Josep Rull heb ddatgan pa wledydd allai ymuno â’r rhwydwaith, ond mae e wedi cyfeirio at berthynas dda â rhanbarthau megis Baden-Württemberg yn yr Almaen, ac mae’n gobeithio y bydd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ymuno â’r fenter.

‘Dwy genedl heb wladwriaeth’

Wrth gyfeirio at debygrwydd rhwng Cymru a Chatalwnia, dywed Josep Rull y bydd y fenter yn cael ei gyrru gan “ddwy genedl heb wladwriaeth, ond sy’n gallu meddwl yn uchelgeisiol er mwyn newid y byd ac ymateb i’r heriau mawr sydd gan y blaned”.

Y nod, meddai, yw datgarboneiddio Catalwnia yn ystod y tymor seneddol presennol, ond er mwyn gwneud hynny mae’n debygol y byddai’n rhaid i rywfaint o fusnes gwleidyddol Catalwnia gael ei symud allan o’i phencadlys.

Yn ystod yr ymweliad â Chymru, mae disgwyl i Elin Jones, Llywydd y Senedd, groesawu’r ddirprwyaeth cyn iddyn nhw deithio i Lundain fory (dydd Iau, Rhagfyr 5).