Mae Llywodraeth Sbaen yn ymdrechu o’r newydd i sicrhau statws swyddogol i’r Gatalaneg, y Galiseg a’r Fasgeg yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i José Manuel Albares, Gweinidog Tramor Sbaen, gyfarfod â Roberta Metsola, Llywydd Senedd Ewrop, heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 4).

Fe fu trafodaethau ar y gweill ers blwyddyn bellach, ond camau bychain sydd wedi’u cymryd hyd yma.

Mae disgwyl i’r drafodaeth heddiw arwain at bleidlais ar y defnydd o’r Gatalaneg yn y siambr, yn ôl adroddiadau.

Ond cyn gallu gwneud hynny, mae’n rhaid aros am adroddiad sydd heb ei gyhoeddi eto gan wasanaethau technegol Senedd Ewrop.

Fe fu pleidiau o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn galw ers tro am roi statws swyddogol i’r iaith yn Ewrop, gyda Junts per Catalunya yn arwain yr ymgyrch honno.

Mae cefnogaeth i’r syniad yn allweddol os ydy’r pleidiau o blaid annibyniaeth am roi eu cefnogaeth i Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, a’i lywodraeth sosialaidd.

Er mwyn dyfarnu statws swyddogol i iaith yn Senedd Ewrop, mae’n rhaid i bob un o’r 27 gwladwriaeth sy’n aelodau roi eu sêl bendith.