Mae disgwyl i gynghorwyr sir Powys gynnal dadl ar gynnig sy’n gofyn iddyn nhw gefnogi ymgyrch i drosglwyddo rheolaeth dros asedau Ystad y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.
Yn nghyfarfod y Cyngor Sir fory (dydd Iau, Rhagfyr 5), bydd Elwyn Vaughan, Cynghorydd Plaid Cymru, yn cyflwyno’r cynnig i gynghorwyr ei drafod.
Bydd y Cynghorydd Elwyn Vaughan yn gofyn bod “Cyngor Powys yn cefnogi’r ymgyrch i ddatganoli rheolaeth dros Ystad y Goron a’i hasedau yng Nghymru i Lywodraeth Cymru, a bod yr arian sy’n cael ei godi’n cael ei ddefnyddio i gefnogi anghenion cymdeithasol ac economaidd pobol Cymru”.
“Rydym yn gofyn i gadeirydd y Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru’n amlinellu ein cefnogaeth i helpu i berswadio San Steffan i ddatganoli Ystad y Goron ar frys.”
Bydd ei gynnig yn cael ei eilio’n ffurfiol gan Bryn Davies, ei gyd-gynghorydd ym Mhlaid Cymru.
Cefnogaeth i’r cynnig
Mae’r cynnig eisoes wedi ennyn rhywfaint o ddiddordeb a sylwadau ar-lein gan gynghorwyr ar drothwy’r cyfarfod.
Ar Facebook, mae’r Cynghorydd Graham Breeze o Grŵp Annibynnol Powys wedi gofyn i’w etholwyr am eu barn ar y mater, gan ddweud ei fod e’n “bwriadu pleidleisio o blaid” y cynnig.
Ychwanega ei fod e wedi darllen astudiaeth gan Brifysgol Bangor sy’n amlinellu’r sefyllfa yn yr Alban, lle mae Ystad y Goron wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban a’i reoli ganddyn nhw ers 2017.
Dywed yr adroddiad hwn fod y cam yn 2023 wedi cynhyrchu £103.6m i goffrau Llywodraeth yr Alban, a bod gwerth yr ystad wedi codi o £568m i £653m.
Pryderon
Mae’r Cynghorydd Jake Berriman, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bowys Gysylltiedig, wedi rhannu ei bryder y gallai’r arian sy’n deillio o ddatganoli Ystad y Goron fynd i rannau eraill o Gymru yn hytrach na Phowys.
“Allwn ni roi mwy o ystyriaeth i sut allai hyn droi’n setliad tecach i Gymru wledig ac felly i Bowys?” gofynnodd.
Mae’n poeni bod y “fydryddiaeth” sy’n penderfynu sut mae Llywodraeth Cymru’n rhannu eu harian rhwng awdurdodau lleol Cymru’n “symud ymhellach” o blaid cynghorau yn ne Cymru.
“Yn yr Alban, mae’r arian ddaw o Ystad y Goron yn aros yn yr Alban; dylai’r un fath ddigwydd yma yng Nghymru,” meddai’r Cynghorydd Richard Church, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bowys Fwy Diogel.
Mae Ystad y Goron yn gasgliad o eiddo, hawliau a buddiannau sy’n eiddo Brenin Lloegr, yn unol â “hawl y Goron”.
Tra mai’r brenin yw’r perchennog cyfreithlon, nid eiddo preifat y Brenin yw Ystad y Goron, a does dim modd ei werthu.
Dydy refeniw ddaw o’r Ystad ddim yn eiddo’r Brenin – mae’n mynd i Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yng Nghymru, mae amcangyfrifon fod yr ystad yn berchen 65% o flaen traethau a gwely afonydd, a mwy na 50,000 o erwau o dir.