Mae dau berson yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl i’w car daro pont ar yr A470 ger Rhaeadr Gwy, i gyfeiriad Llanfair-ym-muallt ym Mhowys ddydd Mawrth (3 Rhagfyr).

Roedd y car BMW M235 wedi taro’r bont y tu allan i safle  Simon Price Cars tua 1.30pm ddydd Mawrth gan achosi anafiadau difrifol i’r ddau oedd yn teithio yn y car. Maen nhw’n parhau yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion i’r digwyddiad neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng a allai helpu gyda’r ymchwiliad.