Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n darlledu dwy ddrama lwyfan boblogaidd sydd wedi bod yn teithio theatrau Cymru yn ddiweddar, ar Ragfyr 8.
Bydd Parti Priodas ar gael ar S4C am 9yh, ac ar blatfformau ffrydio’r sianel sef Clic, YouTube ac iPlayer.
Bydd Rhinoseros hefyd ar gael ar blatfformau ffrydio S4C.
Cafodd y bartneriaeth rhwng S4C a Theatr Cymru ei lansio y llynedd, ac mae’r sefydliadau’n falch o weld y dramâu yn cael eu dangos ar y sgrin, medden nhw.
Parti Priodas
Cafodd y ddrama Parti Priodas ei hysgrifennu gan Gruffudd Owen, ac mae’n dilyn dau brif gymeriad, Lowri ac Idris.
Mae’r ddrama eisoes wedi ennill gwobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio, a chafodd ei chyflwyno i Theatr Cymru fis Hydref – gan nodi’r tro cyntaf i gwmni theatr Cymraeg ennill yn hanes y gwobrau.
Mae Mared Llywelyn, sy’n chwarae rhan Lowri yn Parti Priodas, wrth ei bodd gyda’r cyhoeddiad, sy’n gyfle i roi “ail wynt” i’r ddrama.
“O berfformio mewn cae yn Steddfod Boduan i daith ar hyd a lled Cymru, mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o’r criw sydd wedi creu’r sioe yma,” meddai.
“Wrth siarad gyda chynulleidfaoedd, mae rhywbeth amdani wedi cyffwrdd calonnau.
“Dw i’n meddwl bod pobol yn gallu uniaethu efo blerwch a throeon trwstan bywydau Idris a Lowri, ac yng nghanol yr hwyl a’r chwerthin mae yna themâu sydd wirioneddol yn taro rhywun.”
Ychwanega ei bod hi’n gobeithio gweld mwy o gydweithio rhwng S4C a’r byd theatr yn y dyfodol.
“Fel rhywun sy’n mynychu dangosiadau National Theatre Live yn gyson, mae’n ffordd hygyrch i gyflwyno theatr i gynulleidfa newydd,” meddai.
“Felly, os fethoch chi’r briodas y tro cyntaf, gobeithio wnewch chi fwynhau’r parti yn fwy na ddaru Idris a Lowri!”
‘Pleser arddangos cynnyrch Theatr Cymru’
Drama abswrd o waith Eugene Ionesco wedi’i chyfieithu gan Manon Steffan Ros yw Rhinoseros.
Dywed Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys dros dro S4C, ei bod yn “bleser arddangos rhywfaint o gynnyrch gwych Theatr Cymru ar lwyfannau S4C.”
“Rwy’n siwr y bydd y gwylwyr yn cael blas ar y cynnwys, ac y bydd hynny yn codi’r awch arnynt i ddychwelyd i’r theatrau i wylio cynyrchiadau Cymraeg byw ar lwyfan,” meddai.
Dywed Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, fod yna “gymaint o gyffro yn gweld cynyrchiadau Theatr Cymru ar y teledu”.
Ychwanega fod hon yn “un o sawl ffordd” o ehangu mynediad i gynyrchiadau ac i ddathlu talent Cymru.
“Maen nhw’n gynyrchiadau mor wahanol i’w gilydd, sy’n rhoi blas o amrywiaeth ein rhaglen,” meddai.
“Dw i’n edrych ymlaen i chi brofi gwaith beiddgar Theatr Cymru o gyfforddusrwydd eich soffa adra,” meddai.
Dywed S4C eu bod nhw wedi’u cyffroi o weld datblygiad yn eu partneriaeth gyda Theatr Cymru.